Mae Llywodraeth Cymru’n lansio cynllun newydd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 21), gyda’r bwriad o helpu busnesau bwyd a diod o Gymru i gael mwy o’u cynnyrch ar silffoedd y siopau mwyaf.

Cafodd Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Cymru ei ddatblygu gyda chymorth grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant i weld mwy o dwf yn nhrosiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru o’i gymharu â’r sector yn y Deyrnas Unedig gyfan.

Mae wyth amcan i’r cynllun, gan gynnwys creu llif o fusnesau bwyd a diod entrepreneuraidd newydd a chyflymu twf busnesau sydd â throsiant o fwy na £10m yn y sector manwerthu.

Lesley Griffiths, Yr Ysgrifennydd Materion Gwledig a’r gogledd a’r Trefnydd, fydd yn lansio’r Cynllun Manwerthu, a hynny yn ystod ei hymweliad â’r cynhyrchydd bwyd Samosaco ym Mhont-y-clun fore heddiw.

Bydd y cynllun yn helpu cwmnïau o Gymru i werthu eu cynnyrch ledled y Deyrnas Unedig, yn ôl Llywodraeth Cymru.

“Mae gennym gynhyrchwyr bwyd a diod ffantastig yma yng Nghymru ac rwy’n benderfynol o weld mwy o bobl yn mwynhau eu cynnyrch, nid yma yng Nghymru’n unig ond ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Lesley Griffiths.

“Bydd y cynllun manwerthu newydd yn allweddol i helpu’r diwydiant i gryfhau a dod yn fwy cydnerth a bydd yn gosod y sylfeini ar gyfer helpu’r cwmnïau gyda chamau nesaf eu twf a’u datblygiad.

“Hoffwn ddiolch i’r Grŵp Manwerthu Arbenigol am ein helpu i greu’r cynllun hwn.

“Cafodd y grŵp ei sefydlu’n unswydd i asesu sefyllfa Cymru o fewn sector manwerthu’r Deyrnas Unedig ac i ymateb i ofynion cyfnewidiol y marchnadoedd bwyd.

“Mae gennym gyfle go iawn, trwy’r cynllun newydd hwn, i helpu busnesau bwyd a diod o Gymru i gyrraedd marchnadoedd newydd a gall hynny olygu newid byd iddynt.”

“Cyfle aruthrol”

Ychwanegodd Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru (FDWIB), Andy Richardson fod “gan Fwyd a Diod Cymru gyfle aruthrol i ddatblygu’u gwerthiant gyda manwerthwyr ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig”.

“Dwi i wir yn argyhoeddedig bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi ansawdd, cynaliadwyedd a tharddiad Bwyd a Diod Cymru ac o gyfuno hynny â brandio da wrth y man gwerthu, dylai’r sector dyfu’n dda yn y blynyddoedd i ddod,” meddai.