Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn annog Trafnidiaeth Cymru i wella gwasanaethau rheilffyrdd.

Daw hyn ar ôl i deithwyr gael eu gwasgu ar drenau mewn gwres llethol.

Dros y penwythnos, roedd teithwyr ar drenau Trafnidiaeth Cymru wedi’u gwasgu “fel sardinau mewn tun” heb awyru, ac nid yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol, yn ôl y blaid.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol gan Drafnidiaeth Cymru, ac rwy’n siŵr ei fod yn daith hynod anghyfforddus i deithwyr a gafodd eu gwasgu ar y trên heb awyru digonol wrth i’r tymheredd basio 30 gradd,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’n amlwg bod angen mwy o gerbydau i letya teithwyr yn ddiogel ac atal golygfeydd tebyg rhag datblygu yn y dyfodol, ac rwy’n synnu nad yw corff sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yn gorfodi ei reolau ei hun ar ymbellhau cymdeithasol a gwisgo masgiau.

“Mae angen i Drafnidiaeth Cymru fynd i’r afael â’r sefyllfa hon a gwella profiad teithwyr ar frys.”