Mae Samuel Kurtz, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd a’u llefarydd ar faterion gwledig a’r Gymraeg, wedi beirniadu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) am “bregethu” wrth ffermwyr yn dilyn ffigyrau newydd sy’n dangos bod nifer y damweiniau angheuol ar ffermydd wedi dyblu mewn blwyddyn.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro na fydd ffermwyr yn goddef beirniadaeth gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Daw hyn ar ôl i ffigurau newydd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (yr HSE) ddangos mai ffermio sydd â’r record diogelwch waethaf o blith unrhyw alwedigaeth yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae’r ffigyrau’n dangos bod 41 o bobol wedi’u lladd ar ffermydd gwledydd Prydain yn 2020/2021 – bron i ddwbwl ffigwr y llynedd.

“Dydy ffermwyr ddim yn mynd i eistedd nôl a derbyn darlith gan ‘sefydliad di-wyneb’ fel yr HSE’,” meddai Samuel Kurtz.

“Mae nhw’n gwybod pa mor beryglus yw’r swydd ac yn deall yn iawn pa mor beryglus yw’r diwydiant.

“Wrth gwrs mae’n rhaid inni sicrhau bod ffermwyr yn ddiogel wrth eu gwaith ond ar yr un pryd, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi ymdrin â hyn yn y ffordd anghywir.”

‘Dangos nid darlithio’

Mae e’n canmol gwaith gweithwyr allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf ond yn mynnu bod ffermwyr hefyd yn gweithio’n galed.

“Mae’n rhaid cofio bod ffermwyr hefyd wedi bod allan yna,” meddai.

“Buodd llifogydd y llynedd a nawr edrychwch ar y tywydd poeth sydd gyda ni ar hyn o bryd.

“Mae’n rhaid dangos ffermwyr i weithio’n ddiogel nid eu darlithio.”

Yn ôl Samuel Kurtz, mae ffermwyr yn ei etholaeth wedi siomi gyda’r modd mae’r Awdurdod Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi’r ffigyrau.

“Nid y cynnwys, ond y modd maen nhw wedi rhannu’r neges,” pwysleisia.

“Mae’n rhaid cofio bod lefelau hunanladdiad yn uchel iawn, mae yna lot o bwysau ar iechyd meddwl ffermwyr, ac mae’n rhaid gwybod y ffordd orau i gyfeirio’r neges.”

‘Dim angen ymyrraeth gan y llywodraeth’

“Fel Ceidwadwr, sai’n credu bod angen ymyrraeth y llywodraeth ar bob rhan o’n bywydau ni,” meddai wedyn.

“Dylai penderfyniadau fod yn nwylo unigolion, gan mai nhw sy’n gwybod orau.”

Mae’n annog ffermwyr sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd i gysylltu â mudiadau fel Tir Dewi neu elusen y DPJ Foundation sy’n cynnig cymorth i amaethwyr.

Stori Lowri Jones

Cafodd Lowri Jones o Ledrod ddamwain wrth yrru tractor fis Mehefin y llynedd ac fe brofodd niwed difrifol i’w phengliniau a’u hysgyfaint.

Lowri Jones o Ledrod a gaffed damwain wrth byre tractor y llynedd

Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) achos mwyaf cyffredin o farwolaethau oedd ffermwyr yn cael eu taro gan gerbyd sy’n symud.

Wrth siarad â golwg360 dywedodd fod “ffigyrau fel hyn yn codi braw ar rywun.

“Rydyn ni’n defnyddio’r peirannau yma o ddydd i dydd ond mae damweiniau yn gallu digwydd mor rwydd,” meddai.

“Chi siŵr o fod wedi gwneud cant a mil o weithiau o’r blaen ac mae dy feddwl di yn rhywle arall ac mae pethau’n gallu digwydd mor sydyn heb sylweddoli.”

Mae hi hefyd yn dweud y dylai ffermwyr ystyried eu bod yn cymryd camau diogelwch cyn bwrw ati i wneud tasg.

“Does dim gwregysau diogelwch yn lot o dractors, ond mae gwisgo helmed yn dechrau dod yn fwy cyffredin wrth yrru cwad.

“Os ydych chi’n mynd ar siwrne fer, efallai fyddech chi ddim yn rhoi helmed ymlaen, ond mae siwrne fel yna dal yn gallu bod yr un mor angheuol â siwrne hir.

“Fe allai gymryd dwy eililad i feddwl cyn mynd at job, gan ofyn ai hyn yw’r ffordd mwyaf sâff o wneud rhywbeth.”

Rhybudd Oren y Swyddfa Dywydd

Ychwanegodd y dylai ffermwyr gymryd gofal yn y tywydd poeth wrth i’r Swyddfa Dywydd rybuddio y gall y tymheredd mewn rhai rhannau o Gymru gyrraedd dros 30.2 gradd selsiws.

“Pan y’ch chi’n gweithio oriau hir i gael y cynhaeaf a chi mas yn gwres, mae blinder yn gallu effeithio ac mae hynny’n effeithio ar faint ydych chi’n canolbwyntio,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) am ymateb.

 

Undeb Amaethwyr Cymru yn galw ar ffermwyr i fod yn saff yr haf hwn

Ffigyrau sy’n dangos bod 41 o bobol wedi’u lladd ar ffermydd Prydain yn 2020/2021 yn “peri pryder mawr” i Undeb Amaethwyr Cymru