Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol na fydd pasbort brechu’n amod i gael mynediad i rai llefydd yng Nghymru.

Daw’r alwad ar ôl i Nadhim Zahawi, Gweinidog Brechu Llywodraeth San Steffan, ddweud ddoe (dydd Llun, Gorfennaf 19) fod posibilrwydd y gall fod angen tystiolaeth ar bobol o fis Medi eu bod nhw wedi cael eu brechu cyn cael mynediad i rai llefydd fel clybiau nos a lleoliadau eraill lle mae torfeydd mawr.

Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n gwrthwynebu’r fath gynllun yma, gan ddweud y bydden nhw’n achosi “rhwyg” yn y gymdeithas ac yn “neilltuo” yn erbyn rhai pobol.

“Os ydyn ni wir am gadw pobol yn ddiogel, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym system brofi ac olrhain gadarn i warchod pobol fregus – ond dydy system adnabod genedlaethol ar gyfer brechlynnau ddim yn help yn hyn o beth,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Bydd cyflwyno’r pasbort yma’n gadael nifer o fusnesau ar eu gliniau, yn wynebu llai o gwsmeriaid ac yn ei chael hi’n anodd o ran costau ychwanegol gorfodi.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol i gadarnhau na fyddan nhw’n cyflwyno’r pasbort brechu beichus yma yng Nghymru a chanolbwyntio, yn hytrach, ar leihau nifer yr achosion ym mhob man.”