Roedd pum Aelod Seneddol Ceidwadol wedi torri’r cod ymddygiad mewn ymgais i ddylanwadu ar weithrediadau cyfreithiol cyn-Aelod Seneddol, yn ôl Pwyllgor Safonau’r Senedd.

Daeth y pwyllgor i’r casgliad bod Theresa Villiers, Natalie Elphicke, Syr Roger Gale, Adam Holloway a Bob Stewart wedi torri’r rheolau drwy geisio ymyrryd mewn penderfyniad cyfreithiol yn ymwneud a’r cyn-Aelod Seneddol Charlie Elphicke.

Dywedodd y pwyllgor y dylai’r pump AS gael eu gwahardd o Dŷ’r Cyffredin am ddiwrnod, ac maen nhw wedi cael cyfarwyddyd i ymddiheuro.

“Roedd y llythyron gafodd eu harwyddo a’u hanfon gan yr aelodau yn yr achos yma yn ymgais i ddylanwadu yn amhriodol ar weithrediadau cyfreithiol,” meddai’r pwyllgor.

Ychwanegodd y gallai “ymddygiad dybryd” o’r fath “danseilio ymddiriedaeth y cyhoedd yn annibyniaeth barnwyr.”

Roedd y pump AS wedi ysgrifennu at uwch aelodau’r farnwriaeth i godi pryderon bod barnwr yn ystyried cyhoeddi tystlythyrau cymeriad a ddarparwyd ar gyfer Charlie Elphicke, a gafwyd yn euog o droseddau rhyw.