Gallai nyrsys ystyried gweithredu diwydiannol yn sgil y cynnig o godiad cyflog o 3% meddai arweinydd undeb.
Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol ymysg y rhai sydd wedi bod yn feirniadol o’r codiad cyflog i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr, gan ddweud ei fod e’n “ergyd drom”.
Maen nhw yn ychwanegu y byddai’r codiad cyflog yn cael ei dorri mewn gwirionedd wedi ystyried chwyddiant.
Yn ôl Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig bydd y “nyrs arferol” yn derbyn £1,000 ychwanegol y flwyddyn, tra bydd nifer o borthorion a glanhawyr yn cael tua £450.
O gymharu, mae codiad cyflog o 4% wedi cael ei gynnig i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn yr Alban, gyda Phlaid Cymru’n rhybuddio fod perygl y bydd gweithwyr yng Nghymru’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael lawr o edrych ar hyn.
“Ergyd drom”
Yn ôl Patricia Marquis, cyfarwyddwr Lloegr y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae’r codiad cyflog wedi gadael nyrsys yn teimlo “eu bod nhw ddim cael eu gwerthfawrogi am yr hyn maen nhw’n ei wneud”.
Dywedodd wrth raglen Newsnight y byddai’r undeb yn trafod gyda’i haelodau.
“Unwaith mae gennym ni farn – ac rydyn ni’n amau y bydd hi’n dweud eu bod nhw’n anhapus am y lefel – byddwn ni yna’n ystyried beth yw’r camau nesaf gyda nhw, a allai gynnwys ystyried gweithredu diwydiannol yn bendant.”
Roedd y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi ymgyrchu am godiad cyflog o 12.5%, a dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Pat Cullen “na fydd y proffesiwn yn cymryd hyn heb frwydr”.
“Pan mae’r Trysorlys yn disgwyl i chwyddiant fod yn 3.7%, mae gweinidogion yn gwybod eu bod nhw’n torri cyflog ar gyfer nyrs brofiadol o dros £200 mewn termau real,” meddai Pat Cullen.
“Bydd staff nyrsio’n aros yn urddasol wrth ymateb i beth fydd yn ergyd drom i lawer.”
“Annigonol”
Yn ôl undeb Unite, mae argymhelliad y Corff Adolygu Cyflogau yn “hollol annigonol”.
“Mae aelodau wedi bod yn dweud wrthym ni y byddai cynnydd o 3% yn sarhad ac yn dangos nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi – dydi e ddim hyd yn oed yn cyd-fynd â’r 4% sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth yr Alban i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd, sy’n ôl-weithredol o Ragfyr 2020,” meddai swyddog cenedlaethol Unite ar gyfer iechyd, Colenzo Jarrett-Thorpe.
“Bydd Unite yn ymgynghori’n eang gydag ein 100,000 aelod yn y gwasanaeth iechyd yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf er mwyn gweld beth yw’r camau nesaf, a fydd yn cynnwys pleidlais ymgynghorol ar weithredu diwydiannol.”
Mae gan Unite bolisi sy’n mynnu codiad cyflog o £3,000 y flwyddyn, neu 15%, pa bynnag un sydd uchaf.
Yn y cyfamser, mae undeb Unison wedi dweud eu bod nhw’n falch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi symud oddi wrth eu bwriad gwreiddiol o gynnig 1% o godiad cyflog, ond ychwanegodd yr undeb fod staff yn haeddu mwy.
“Gadael lawr”
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Sian Gwenllian, fod yna berygl i weithwyr deimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael lawr gan Lywodraeth Cymru.
“Mae ein gwasanaeth iechyd dan bwysau, a heb ddigon o adnoddau na staff yn barod, a’r lleiaf y gallwn ni ei wneud yw sicrhau nad yw ein gweithwyr yn parhau heb gyflog digonol,” meddai Sian Gwellian AoS.
“Mae yna berygl gwirioneddol y bydd staff sy’n gweithio’n galed yn y Gwasanaeth Iechyd yn edrych ar y cynnig o 4% yn yr Alban ac yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael lawr gan Lywodraeth Cymru.
“Tra ein bod ni’n cydnabod y cyfyngiadau yn sgil cynni Torïaidd, dylai Llywodraeth Cymru barhau i berswadio San Steffan i barchu ein gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen gyda chyflog teg.”
“Mynnu gwell”
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn well hefyd.
“Mae staff y Gwasanaeth Iechyd, fel nifer o rai eraill, wedi ymdrechu tu hwnt i ddisgwyliadau i gadw Cymru’n saff yn ystod y pandemig,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
“Maen nhw wedi blino a dan straen, a thra bod cyfyngiadau’r cyfnod clo yn llacio, rydyn ni’n dal, a byddwn ni dal, mewn pandemig.
“Mae disgwyl i gostau byw gynyddu’r un faint eleni, gan olygu na fydd cynnig y Llywodraeth fyth yn cael ei deimlo gan nifer o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd. Rydyn ni’n mynnu gwell i staff y Gwasanaeth Iechyd.
“Dw i’n galw ar Lywodraeth Cymru i dyrchu’n ddyfnach a gwneud yn well i staff ein Gwasanaeth Iechyd, a chynnal adolygiad o gyflogau holl weithwyr y sector cyhoeddus sydd wedi cadw Cymru’n ddiogel drwy gydol y pandemig.”
“Gwerthfawrogi”
Wrth gyhoeddi’r codiad cyflog yng Nghymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd ei fod yn gydnabyddiaeth o ymroddiad ac ymrwymiad staff.
“Mae’r codiad cyflog hwn yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r cyfraniad enfawr y maent wedi’i wneud. Mae hefyd yn cydnabod faint y mae cymunedau Cymru’n eu gwerthfawrogi.
“Ar gyfer staff ar y cyflog isaf, mae hyn yn golygu ein bod yn talu’n fwy na’r argymhelliad Cyflog Byw o £9.50 yr awr, gan ddangos ein hymrwymiad i sicrhau fod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n gyflogwr Cyflog Byw.”