Mae’r heddlu eisiau i’r cyhoedd eu galw os welan nhw jet skis yn aflonyddu ar adar môr.

Dywed aelodau Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn barod i erlyn unrhyw sy’n troseddu yn y fath fodd.

Mae nhw yn galw ar bobol ar jet skis i fod yn wyliadwrus o amgylch yr arfordir.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau fod jet skis wedi dychryn bywyd gwyllt ar Afon Conwy, ac wedi i’r cyflwynydd teledu, Iolo Williams, weld pum jet ski yn gyrru drwy wylogod ger Ynys Seiriol, Môn.

Dydi gyrru jet skis drwy adar môr ddim yn ffordd gynaliadwy o reoli adnoddau naturiol, meddai Rheolwr Tîm Cefn Gwladol Gogledd Cymru.

Ychwanegodd y Rhingyll Dewi Evans fod anafu adar môr yn fwriadol yn drosedd, a bod yr heddlu yn barod i erlyn unrhywun sy’n gwneud hynny.

“Parod i erlyn”

“Yn anffodus, dros y dyddiau diwethaf rydyn ni wedi cael adroddiadau fod pobol ar jet skis wedi bod yn gyrru eu cerbydau ar hyd wyneb y môr lle mae yna wylogod ifanc yn cael eu magu,” meddai’r Rhingyll Dewi Evans.

“Yn anffodus, mae’r rafts o wylogod yma’n gallu cael eu hanafu trwy’r weithred yma.

“Petai rywun yn gwneud hyn yn fwriadol, gan anafu’r adar yma mi fysech chi’n cyflawni trosedd.

“Rydyn ni’n ddigon parod i erlyn lle mae gennym ni dystiolaeth o hyd yn digwydd.

“Os gwelwch yn dda, byddwch yn wyliadwrus yn ein hardaloedd morol.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n dweud y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch troseddau o’r fath gysylltu â’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad.

Cefndir

Llynedd fe wnaeth Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, gyflwyno mesur yn Nhŷ’r Cyffredin yn galw am drwyddedau gorfodol ar gyfer beiciau dŵr.

Daeth hyn yn dilyn dwy ddamwain angheuol yn y gogledd yn ymwneud â beiciau dŵr yn ystod haf 2020.

Yn wahanol i weddill Ewrop, does dim angen hyfforddiant, yswiriant na thrwydded i ddefnyddio beiciau dŵr yng ngwledydd Prydain.

Fis Hydref 2020, fe wnaeth Cyngor Gwynedd alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno deddfwriaeth i reoli eu defnydd hefyd.

Safbwynt nifer o lywodraethau olynol yn San Steffan yw mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol ac awdurdodau porthladdoedd yw rheoleiddio defnydd o jet skis gan ddefnyddio pwerau lleol i gyfyngu ar yr amseroedd a’r llefydd y gellir eu defnyddio, er enghraifft.

Hywel Williams am gyflwyno mesur i geisio rheoli’r defnydd o feiciau dŵr

Daw hyn yn dilyn dwy ddamwain angheuol yn y gogledd dros yr haf