Mae nifer y bobl ifanc sy’n aros rhagor na mis am eu hapwyntiad cyntaf gyda’r gwasanaeth iechyd meddwl yng Nghymru wedi dyblu ers mis Mawrth eleni.

Yn ôl ystadegau newydd a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru fe ddyblodd y niferoedd o fewn pedwar mis – rhwng Mawrth a Mehefin.

Bu’n rhaid i 123 o bobl aros am apwyntiad gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) ym mis Mawrth ac roedd y nifer wedi rhagor na dyblu i 280 erbyn mis Mehefin.

Mae Siân Gwenllian AoS, Llefarydd Plaid Cymru dros blant a phobl ifanc wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn lleihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.

Mewn ymateb i gwestiwn gan AoS Arfon Siân Gwenllian y mis diwethaf, fe ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, nad oedd gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol CAHMS “yn addas” ar gyfer nifer o blant a phobl ifanc a gyfeirir ato.

Angen gweithredu ar frys

Dywedodd Siân Gwenllian fod angen i’r llywodraeth wella darpariaeth gwasanaethau.

“Wrth [i’r llywodraeth] gydnabod bod pobl ifanc yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth pan na fyddent efallai’n addas ar ei gyfer, mae’n rhyfeddol bod y niferoedd wedi cynyddu unwaith eto.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru naill ai gynyddu darpariaeth y gwasanaeth hwn neu ddarparu modd o gyfeirio pobl at wasanaethau amgen eraill sydd ar gael.

“Y naill ffordd neu’r llall, mae angen gweithredu ar frys ar wasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc”

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eisoes wedi adolygu effaith y pandemig ar y to iau ac wedi cydnabod bod angen mwy o gefnogaeth.

Mae’r pwyllgor yn dweud bod yna nifer sylweddol o blant sydd angen cefnogaeth drwy wasanaeth iechyd meddwl, ond dydyn nhw ddim angen gofal arbenigol.

‘Hybiau Iechyd Meddwl’

Mae Plaid Cymru am weld canolfannau iechyd meddwl yn cael eu sefydlu ble fydd pobl ifanc yn gallu cerdded mewn i dderbyn gofal, cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl yn rhad am ddim.

Ychwanegodd Siân Gwenllian “Mae Plaid Cymru eisoes wedi cynnig y syniad am rwydwaith o hybiau iechyd ledled Cymru ac rydym yn estyn gwahoddiad at Lywodraeth Cymru i gydweithio â ni er mwyn gwireddu hyn”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae cael Dirprwy Weinidog sy’n ymroddedig dros Iechyd Meddwl a Lles yn atgyfnerthu’r neges honno.

“Rydym wedi datblygu’r pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc ac wedi buddsoddi mwy o arian mewn i ysgolion, gan gynnwys cefnogaeth pan fydd ysgolion ar wyliau.

“Mae ein Grant Cymorth Ieuenctid yn cynnwys £2.5m yn benodol ar gyfer gwaith iechyd meddwl a lles trwy gynnig cefnogaeth iechyd meddwl yn gynharach er mwyn osgoi gofal dwysach yn maes o law. ”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud ei bod yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys y trydydd sector.