Yn dilyn pryderon dros yr haf am ddefnydd peryglus ac anghyfrifol o jetskis, mae Cyngor Gwynedd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno deddfwriaeth i reoli eu defnydd.

Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd ddoe (Hydref 1), cefnogwyd y cynnig gan Gareth Thomas, Aelod Cabinet y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am faterion morwrol.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o gwynion a phryderon gan gymunedau am ddefnydd peryglus o jetskis wedi cynyddu yn sylweddol”, meddai.

“Yn dilyn y cyfnod clo, rydym wedi gweld cynnydd pellach mewn pryderon o’r fath ynghyd â damwain angheuol ger arfordir Gwynedd.

“Yn anffodus, oherwydd bwlch yn y gyfraith, ychydig iawn o rym sydd gan awdurdodau lleol i reoli’r defnydd o’r cerbydau yma.”

Ar hyn o bryd nid oes angen hyfforddiant, yswiriant na thrwydded i ddefnyddio jetski’s ym Mhrydain, ond mae Cyngor Gwynedd yn gorfodi pob bad sy’n lansio o draethau a harborau’r Sir i gofrestru.

Ond mae pwerau gorfodi’r Cyngor yn gyfyngedig heb ddeddfwriaeth i reoli’r defnydd o fadau dŵr personol.

Edrych tuag Ewrop

Ychwanegodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths sydd yn cynrychioli ward Gorllewin Porthmadog fod angen cyflwyno deddfwriaeth debyg i’r hyn sydd yn Ewrop.

“Dros yr haf, rydym wedi gweld pobl yn heidio i draethau’r ardal fel traeth y Greigddu, gyda sefyllfa gyfan gwbl o deuluoedd yn ymdrochi ochr yn ochr ag unigolion yn gyrru jetskis.

“Mae rheoliadau cenedlaethol caeth yn bodoli ar dir mawr Ewrop ac mae angen deddfu i sicrhau trefniadau tebyg yma yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”

Mae’r Cyngor wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i alw am ddeddfwriaeth.