“Bydd 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru yn fwy radical na’r 20 blynedd diwethaf” dan Lywodraeth Llafur.

Dyna fydd Adam Price yn ei ddweud yn ddiweddarach wrth rannu ei weledigaeth yng nghynhadledd rithiol ei blaid.

Bydd yn dweud y bydd y GIG yn cael ei drawsnewid yn ‘Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ gyda gofal cymdeithasol am ddim i bawb, a gyda gofalwyr yn ennill o leia’ £10 yr awr.

A bydd yn ymrwymo i adeiladu 50,000 o dai mewn pum mlynedd, cwtogi treth y cyngor, a “rhoi diwedd ar y pla tai yn ein cymunedau gwledig.”

Mae disgwyl i etholiad y Senedd gael ei gynnal ym mis Mai flwyddyn nesa’.  Hyd yma mae’r blaid Lafur wedi bod mewn grym – ar ryw ffurf – ers dechrau datganoli.

Pwyslais ar dai

“Wnawn ni adeiladu 10,000 o dai y flwyddyn,” bydd yn dweud yn ddiweddarach. “Cartrefi cyhoeddus, ar dir cyhoeddus. Byddan nhw wir yn fforddiadwy, ac yn cydymffurfio â’r safonau amgylcheddol uchaf.

“50,000 yn ystod ein pum mlynedd gyntaf – 30,000 o dai cymdeithasol,  15,000 fforddiadwy i’w prynu, a 5,000 o dai fforddiadwy i’w rhentu.

“Dyma fydd y rhaglen dai cyhoeddus mwyaf ers y 1970au.

“Ochr yn ochr â hyn mi rown stop ar bobol yn cael eu gyrru allan o dai heb fai, a wnawn ni rhewi a thorri rhent annheg yn y sector rhentu preifat.

“Hefyd wnawn ni codi trethi ar ail gartrefi a rhoi diwedd ar y pla tai yn ein cymunedau gwledig.”