Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, a’i wraig Melania, wedi profi’n bositif am Covid-19, meddai’r Arlywydd ar Twitter yn gynnar fore Gwener.

Daeth y newyddion ar ôl cyhoeddiad ddydd Iau fod uwch-gynorthwyydd Trump, Hope Hicks, wedi profi’n bositif.

Daw’r datblygiad syfrdanol fis cyn etholiad yr Unol Daleithiau ar 3 Tachwedd.

Disgwylir i Mr Trump nawr hunanynysu am ryw bythefnos.

“Aros gartref yn y Tŷ Gwyn i wella”

Mae’r Arlywydd yn 74 oed, gan ei wneud yn agored i risg o gymhlethdodau difrifol o’r feirws.

Dywedodd Sean Conley, meddyg yr Arlywydd: “Mae’r Arlywydd yn dda ar hyn o bryd, ac maent [fe a’i wraig Melania] yn bwriadu aros gartref yn y Tŷ Gwyn i wella.

“Bydd tîm meddygol y Tŷ Gwyn a minnau’n cadw golwg arnynt yn ofalus, ac rwy’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth a ddarperir gan rai o weithwyr meddygol proffesiynol a sefydliadau mwyaf ein gwlad.

“Rwy’n disgwyl i’r Arlywydd barhau i gyflawni ei ddyletswyddau tra’n gwella, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol.”

Gwneud yn fach o’r bygythiad

Ers i’r coronafeirws ddod i’r amlwg yn gynharach eleni, mae Mr Trump, y Tŷ Gwyn a’i ymgyrch wedi gwneud yn fach o’r bygythiad ac hyd yn oed wedi gwrthod glynu wrth ganllawiau iechyd cyhoeddus sylfaenol — gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd gan ei weinyddiaeth ei hun — megis gwisgo masgiau yn gyhoeddus ac ymarfer ymbellhau cymdeithasol.

Yn hytrach, mae Mr Trump wedi parhau i gynnal ralïau ymgyrchu sy’n denu miloedd o gefnogwyr.

Ddydd Iau, trydarodd: “Mae Hope Hicks, sydd wedi bod yn gweithio mor galed heb gymryd seibiant bach hyd yn oed, newydd brofi’n bositif am Covid 19. Ofnadwy!”

“Mae [Melania] a fi’n aros am ganlyniadau ein profion. Yn y cyfamser, byddwn yn dechrau ein proses cwarantin!”

Profodd Ms Hicks, sy’n gwasanaethu fel cynghorydd i’r Arlywydd ac a deithiodd gydag ef i rali ddydd Mercher, yn bositif ddydd Iau.

200,000

Mae’r firws wedi lladd dros 200,000 o Americanwyr ac wedi heintio mwy na saith miliwn ledled y wlad.

Teithiodd Ms Hicks gyda’r llywydd sawl gwaith yr wythnos hon, gan gynnwys ar Marine One, hofrenydd yr Arlywydd, ar gyfer rali ym Minnesota ddydd Mercher, ac hefyd ar ôl y ddadl arlywyddol gyntaf yn erbyn Joe Biden.

Mae sawl aelod o staff y Tŷ Gwyn wedi profi’n bositif am y feirws, gan gynnwys Katie Miller, ysgrifennydd y wasg Mike Pence, y Dirprwy Arlywydd.

Mae oedran a phwysau Mr Trump yn debygol o beri pryder i’w dîm meddygol wrth iddynt fonitro ei gyflwr.

Mae rhai astudiaethau’n awgrymu y gall Covid-19 effeithio’n waeth ar gleifion sy’n ordew – er nad yw’n glir a yw hynny am eu bod yn fwy tebygol o fod â chyflyrau iechyd eraill, megis clefyd y galon neu ddiabetes. Yn ei brawf corfforol yn 2019, roedd Mr Trump yn cyrraedd y trothwy technegol ar gyfer gordewdra.

Ers dyddiau cynnar y pandemig, mae arbenigwyr wedi cwestiynu’r protocolau iechyd a diogelwch yn y Tŷ Gwyn ac wedi gofyn pam nad oedd mwy yn cael ei wneud i amddiffyn yr Arlywydd.

Parhau i ysgwyd llaw

Parhaodd Mr Trump i ysgwyd llaw gydag ymwelwyr ymhell ar ôl i swyddogion iechyd y cyhoedd rybuddio yn erbyn gwneud hynny. Gwrthwynebodd gael ei brofi i ddechrau hefyd.

Mae wedi bod yn amharod i arfer canllawiau ymbellhau cymdeithasol ei weinyddiaeth ei hun rhag ofn iddo ymddangos yn wan – gan gynnwys gwrthod, o dan bron pob amgylchiad, wisgo masg yn gyhoeddus.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd y Tŷ Gwyn, Judd Deere: “Mae’r llywydd yn cymryd iechyd a diogelwch ei hun a phawb sy’n gweithio i’w gefnogi ef a phobl America o ddifrif.”

“Mae Gweithrediadau’r Tŷ Gwyn yn cydweithio â meddyg y llywydd a Swyddfa Filwrol y Tŷ Gwyn i sicrhau bod yr holl gynlluniau a gweithdrefnau yn ymgorffori’r canllawiau cyfredol a’r arferion gorau ar gyfer cyfyngu ar ledaeniad Covid-19 i’r graddau mwyaf posibl, a hynny ar y safle a phan fydd yr Arlywydd yn teithio,” ychwanegodd.