Mae Aelod Seneddol yr SNP, Margaret Ferrier AS, wedi cyfaddef torri rheolau hunanynysu drwy deithio i’r Senedd ar ôl datblygu symptomau Covid – ac yna teithio’n ôl i’r Alban ar drên ar ôl profi’n gadarnhaol.

Dywedodd AS Rutherglen a Gorllewin Hamilton ei bod wedi cymryd prawf brynhawn Sadwrn ar ôl profi “symptomau ysgafn”, sy’n golygu y dylai fod wedi hunanynysu, cyn teithio ar y trên i Lundain ddydd Llun ar ôl teimlo’n well.

Siaradodd yn y ddadl ar y coronafeirws yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun ac, meddai hi, profodd yn gadarnhaol ar gyfer Covid-19 y noson honno. Ni eglurodd a gafodd y canlyniad cyn neu ar ôl iddi siarad.

Mewn datganiad, dywedodd Margaret Ferrier ei bod wedi teithio adref i Glasgow ddydd Mawrth, lle mae wedi bod yn hunanynysu ers hynny.

Sturgeon yn condemnio, Llafur yn cyhuddo, heddlu’n ymchwilio

Condemniodd arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, ymddygiad “hollol anamddiffynadwy” yr AS a chroesawodd fod y chwip wedi ei thynnu’n ôl, ond roedd galwadau di-rif am ymddiswyddiad Ms Ferrier, gan gynnwys o’r tu mewn i’w phlaid.

Awgrymodd Llafur fod y blaid wedi cuddio gwybodaeth am weithredoedd Margaret Ferrier ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y blaid yn gwybod am ei diagnosis ddiwrnod cyn iddi ei ddatgelu nos Iau.

Dywedodd Heddlu’r Alban fod yr AS wedi rhoi gwybod iddynt am ei hymddygiad ddydd Iau a bod swyddogion yn “ymchwilio i’r amgylchiadau” ynghyd â’r Heddlu Metropolitan.

Dywedodd Tŷ’r Cyffredin na hysbysodd chwip ei phlaid tan brynhawn dydd Mercher – mae un person wedi’i nodi fel cyswllt agos, a dywedwyd wrtho am hunanynysu.

Gallai Ms Ferrier wynebu dirwy o £4,000 am y ‘drosedd tro cyntaf’ o ddod i gysylltiad ag eraill pan ddylai fod wedi bod yn hunanynysu o dan gyfraith a ddaeth i rym ar ddiwrnod ei phrawf positif.

“Er fy mod yn teimlo’n dda, dylwn fod wedi hunanynysu wrth aros am ganlyniad fy mhrawf, ac rwy’n gresynu’n fawr,” meddai.

Enillodd yr SNP sedd Rutherglen a Gorllewin Hamilton oddi wrth Lafur yn etholiad cyffredinol 2019, pan enillodd Ms Ferrier gyda mwyafrif o 5,230.

Dywedodd Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, ei fod wedi tynnu’r chwip oddi wrth Ms Ferrier.

“Mae’n anodd mynegi pa mor ddig rwy’n teimlo”

Croesawodd Ms Sturgeon hynny ac ychwanegodd: “Mae’n anodd mynegi pa mor ddig rwy’n teimlo ar ran pobl ledled y wlad yn gwneud aberth caled bob dydd i helpu i guro Covid. Mae’r rheolau’n berthnasol i bawb ac maen nhw ar waith i gadw pobl yn ddiogel.”

Mae David Linden, AS yr SNP dros etholaeth Dwyrain Glasgow, cymydog Ms Ferrier, wedi galw arni i fynd.

Dywedodd wrth BBC Question Time neithiwr fod ei hymddygiad yn “gwbl anfaddeuol”, gan ychwanegu: “Dylai ymddiswyddo.”

Adleisiwyd hyn ers hynny gan Kirsty Blackman, AS yr SNP dros Ogledd Aberdeen, a Stephen Flynn, AS yr SNP dros Dde Aberdeen.

Dywedodd Ms Blackman, er bod Ms Ferrier yn ymgyrchydd “heb ei hail” i’r blaid, rhaid iddi ymddiswyddo.

“Ni ellir anwybyddu gweithredoedd Margaret,” ychwanegodd mewn trydariad.

Aildrydarodd Mr Flynn neges Ms Blackman, gan ysgrifennu: “Amhosib anghytuno. Fydd y cyhoedd yn disgwyl dim llai.”

Dywedodd arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Douglas Ross, a ymddiswyddodd o Lywodraeth Boris Johnson dros symudiadau cyfnod clo Dominic Cummings, “mae’r cyhoedd yn haeddu atebion clir”.

“Gwyddom bellach i’r SNP gael gwybod ddydd Mercher bod Margaret Ferrier wedi cael prawf, ar ôl iddi deithio’n ôl i’r Alban o Lundain ar drafnidiaeth gyhoeddus tra’i bod wedi’i heintio â’r feirws,” meddai.

“Torrodd y camau hyn nid yn unig y gyfraith, [ond] byddant wedi peryglu bywydau [hefyd].

“Rhaid i ni glywed gan Nicola Sturgeon ac Ian Blackford am pryd yn union roedden nhw’n gwybod a pham eu bod yn cadw’r wybodaeth hon yn gyfrinachol gan y cyhoedd am oriau neu efallai hyd yn oed ddyddiau.”

Pryd, beth, pam?

Mynnodd llefarydd ar ran yr SNP nad oedd y blaid yn gwybod tan ddydd Iau fod Ms Ferrier wedi sefyll prawf cyn teithio i Lundain.

“Dywedodd Ms Ferrier wrth yr SNP ddydd Mercher, pan oedd yn Glasgow, ei bod wedi profi’n gadarnhaol,” meddai.

“Hysbysodd prif chwip yr SNP awdurdodau’r Senedd ar unwaith. Dim ond ddydd Iau y daeth yr SNP yn ymwybodol bod Ms Ferrier wedi cael ei phrofi cyn teithio i Lundain a’i bod wedi teithio’n ôl i Glasgow gan wybod ei bod wedi cael canlyniad positif.”

Ddydd Llun, cyfrannodd Ms Ferrier araith bedair munud at y ddadl ar coronafeirws yn Nhŷ’r Cyffredin.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Alban fod swyddogion yn cydweithio â’r Heddlu Metropolitan.