Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parchu datganoli yn ogystal â’r “meysydd sydd heb eu datganoli”, pe byddent yn dod i rym.
Daw sylwadau Paul Davies, arweinydd y blaid yn y Senedd, mewn darn ar y blog ceidwadol Gwydir ac ar drothwy cynhadledd rithiol y Torïaid.
Yn y darn mae’n dweud bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn rhoi sylw i feysydd sydd ddim yn rhan o’u cyfrifoldebau hwythau – gan gynnwys materion rhyngwladol, a chyfiawnder.
Ond pe bai yntau’n Brif Weinidog, mae’n honni na fyddai’n potsian yn y fath modd, ac y byddai’n parchu awdurdod Llywodraeth San Steffan.
“Bydd Llywodraeth Geidwadol Cymru yn canolbwyntio ar barchu datganoli, a pharchu’r meysydd sydd heb eu datganoli hefyd,” meddai.
“Bydd y pethau sydd wedi eu datganoli dan reolaeth fy Llywodraeth i,” meddai wedyn. “A bydd pethau sydd heb eu datganoli yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Boris [Johnson].
“Bydd agenda o barch yn cael ei ailsefydlu rhwng y ddwy lywodraeth, a bydd y ddwy ochr yn cadw at hynny. Bydd hynny, wrth gwrs, yn golygu na fydd Llywodraeth Cymru yn sathru ar feysydd San Steffan chwaith.”
Tynnu “yn ddarnau”
Mae wedi dweud y byddai’n tynnu adran y Gweinidog Materion Rhyngwladol, Eluned Morgan, “yn ddarnau” am nad yw’r maes wedi ei ddatganoli i Gymru.
Ac mae hefyd wedi galw adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yn “ymgais i gipio pŵer” ac y byddai’n gwrthod ei gasgliadau – roedd y ddogfen yn galw am ddatganoli cyfiawnder i Gymru.
“Bydd fy Llywodraeth Cymru i yn stopio ymyrryd yn y system lloches (asylum) gan nad yw mewnfudo a lloches wedi’u datganoli,” meddai wedyn.
“Byddwn yn stopio’r tueddiad o esgus bod gan Lywodraeth Cymru Swyddfa Gartref. Does ganddi ddim.”