Bydd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, yn cyflwyno mesur yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 10), yn galw am drwyddedau gorfodol ar gyfer beiciau dŵr.
Daw hyn yn dilyn dwy ddamwain angheuol yn y gogledd yn ymwneud â beiciau dŵr dros yr haf.
Bu farw Jane Walker yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cwch a cherbyd sgïo dŵr ym Mhorthaethwy fis Awst, a bu farw’r plismon Barry Davies wrth sgïo dŵr ger Pwllheli yn ddiweddarach yr un mis.
Yn wahanol i weddill Ewrop, does dim angen hyfforddiant, yswiriant na thrwydded i ddefnyddio beiciau dŵr yng ngwledydd Prydain.
‘Dim rheolaeth ar hyn o bryd’
“Does yna ddim unrhyw fath o reolaeth ar hyn o bryd ar jet skis ym Mhrydain,” meddai Hywel Williams wrth raglen Newyddion S4C.
“Mae yna ryw fath o system drwyddedu ym mhob gwlad Ewropeaidd arall.
“Beth fyddai’r mesur yma yn ei wneud byddai cyflwyno’r angen am drwydded, a chosb os ydych chi’n defnyddio jet ski’s heb gael trwydded.”
Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol fel Cyngor Gwynedd yn gorfodi badau sy’n lansio o bob traeth a harbwr yn y sir i gofrestru.
Ond mae pwerau gorfodi’r Cyngor yn gyfyngedig heb ddeddfwriaeth i reoli’r defnydd o feiciau dŵr.
Fis Hydref, galwodd Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno deddfwriaeth i reoli’r defnydd.
Wrth gyflwyno’r cynnig ger cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd, eglurodd Gareth Thomas, Aelod Cabinet y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am faterion morwrol, fod cynnydd wedi bod yn nifer y cwynion.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y cwynion a phryderon gan gymunedau am ddefnydd peryglus o jetskis wedi cynyddu yn sylweddol,” meddai.
“Yn dilyn y cyfnod clo, rydym wedi gweld cynnydd pellach mewn pryderon o’r fath ynghyd â damwain angheuol ger arfordir Gwynedd.
“Yn anffodus, oherwydd bwlch yn y gyfraith, ychydig iawn o rym sydd gan awdurdodau lleol i reoli’r defnydd o’r cerbydau yma.”