Mae teulu’r plismon fu farw ddydd Sadwrn (Awst 15) yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â cherbyd sgïo dŵr wedi talu teyrnged iddo.

Roedd Barry Davies yn 49 oed ac yn byw yn ardal Pwllheli.

“Fel teulu mae hi’n hynod o anodd rhoi mewn geiriau’r hyn oedd Barry yn ei olygu i ni,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Roedd yn ŵr bonheddig ac yn hynod o boblogaidd, ac roedd yn aros yn ddigynnwrf beth bynnag oedd y sefyllfa.

“Fe weithiodd yn galed iawn i fod yn Swyddog Heddlu, swydd yr oedd yn ei hoffi’n fawr ac wedi ymrwymo iddi.

“Roedd hefyd yn cael pleser mawr o fod yn aelod o’r Bad Achub ynghyd â bod yn hyfforddwr karate.

“Roedd yn byw bywyd llawn drwy dreulio amser hefo’i gymar a’i ddwy ferch.

“Roedd yn fab annwyl, yn bartner cariadus, yn dad anwesol, yn frawd gofalgar ac yn ffrind a chydweithiwr hoff i bawb a oedd yn ei adnabod.

“Fel teulu, hoffem ddatgan ein diolch i bawb am eu negeseuon caredig ac am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma.”