Mae adroddiadau bod dynes wedi cael ei bwrw i’r afon yn nhref glan môr Great Yarmouth mewn digwyddiad a oedd yn ymwneud â chwch.

Mae’r gwasanaethau brys wedi datgan “digwyddiad difrifol iawn” yn afon Bure yn y Norfolk Broads, ac wedi cau darn o’r afon.

Mae lle i gredu bod plymwyr, pedair injan dân, pedwar ambiwlans, bad achub, swyddogion patrôl Gwylwyr y Glannau a’r heddlu yn ymateb i’r digwyddiad ger gorsaf hwylio Great Yarmouth am oddeutu 1.30yp.

Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi ymateb i adroddiadau bod dynes yn y dŵr yn dilyn digwyddiad a oedd yn ymwneud â chwch.

“Cafodd swyddogion eu galw ychydig cyn 1.35yp heddiw (dydd Mercher, 19 Awst) yn dilyn adroddiadau am fenyw yn y dŵr yng Nghei’r Gogledd yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â chwch.

“Mae swyddogion yn bresennol ar hyn o bryd, ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Norfolk, gwasanaeth ambiwlans Dwyrain Lloegr a gwylwyr y glannau.”

Dywed Awdurdod Norfolk Broads fod yr afon ynghau rhwng Breydon Water a Stracey Arms am y tro.

Mae o leiaf 17 o gerbydau argyfwng ar y safle, yn ôl adroddiadau’r wasg leol.