Mae cynghorwyr yng Ngwynedd a Sir Gaerfyrddin wedi lleisio eu pryder unwaith eto am y cynnydd yn y tai a gafodd eu gwerthu fel ail gartrefi yng Nghymru, a’r effaith y gallai hyn ei gael ar gymunedau Cymraeg a theuluoedd ifanc.

Mae Dafydd Meurig, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd, wedi galw am fwy o hawliau i awdurdodau lleol reoli ail gartrefi.

Daw hyn wedi iddo weld hysbyseb ar lein oedd yn disgrifio tŷ yn Llanllechid ger Bethesda fel “weekend retreat”.

Yn ôl y Cynghorydd, mae’r enghraifft yma yn un o ddegau o hysbysebion tebyg sydd wedi ei anelu at bobol sydd am brynu ail gartrefi.

“Mae ail gartrefi’n rhwygo calon allan o’n pentrefi ni,” meddai Dafydd Meurig wrth golwg360.

“Yn ddelfrydol byddai’r cyngor yn dymuno gallu gorfodi pobol i wneud cais cynllunio i droi tŷ o fod yn gartref cyntaf i fod yn ail gartref.

“Byddai hyn yn galluogi i ni fel cyngor i reoli’r niferoedd mewn gwanhaol ardaloedd do’r sir – ond does dim byd o fewn y drefn cynllunio sy’n rhwystro unrhyw un i brynu tŷ ai ddefnyddio fel ail gartref.

“Mae’n sgwrs rydym ni wedi ei gael gyda’r Llywodraeth ers blynyddoedd – ond dwi ddim yn teimlo ei bod nhw’n gwybod faint o broblem ydy hyn yng Ngwynedd a siroedd y gorllewin.”

Mae ystadegau yn dangos i 38% o’r tai a werthwyd yng Ngwynedd rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020 gael eu gwerthu fel ail gartrefi.

Mae’r ffigurau gan Awdurdod Cyllid Cymru hefyd yn dangos fod mwy o ail gartrefi wedi’u prynu yng Ngwynedd nag unrhyw le arall yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Er fod Cyngor Gwynedd yn codi 50% yn fwy o dreth cyngor ar ail gartrefi mae modd i berchnogion restri ail gartrefi fel busnesau er mwyn osgoi talu’r dreth.

‘Anfoesol’

Disgrifiodd y Cynghorydd y sefyllfa fel un ‘”anfoesol”.

“Mae’r niferoedd o ail gartrefi yn uchel ofnadwy yn y sir,” meddai.

“Mae’n hollol anfoesol fod yna bobol sydd ag ail gartrefi yn y sir tra bod pobol leol methu dod o hyd i dai.”

“Mi fydd rhaid i rywbeth ddigwydd, ond dwi ddim yn rhagweld y Llywodraeth yma yn neud dim.”

Mae sawl tŷ ar y farchnad yng Ngwynedd ar hyn o bryd sydd yn fwy na £1m, gyda rhai tai hefyd wedi eu rhestru am hyd at £3m.

Yn ôl gwefan arwerthu ar lein pris cyfartalog tŷ yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd £185,806.

Pris cyfartalog tŷ yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod oedd £161,719.

Mae prisiau tai yn Llansteffan tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o deuluoedd ifanc lleol yn ôl cynghorydd lleol.

De-orllewin

Mae cynghorwyr yn ne-orllewin Cymru hefyd wedi galw am reoleiddio’r farchnad ail gartrefi.

Mae ystadegau’n dangos bod cynnydd o 15.6% mewn prisiau tai yng Nghymru, sydd yn ganlyniad i doriad yny doll stamp yn ôl un cynghorwr.

“Er bod y toriad yn y doll stamp wedi creu cynnydd mewn gwerthiant a phrisiau tai ledled y DU, mae’r codiad o 15.6% yng Nghymru yn anhygoel,” meddai Alun Lenny, un o gynghorwyr Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl y cynghorwr, mae pobol yn ffoi o’r dinasoedd rhag y pandemig.

“Mae’r tueddiad yma’n cael ei alluogi gan yr anghydbwysedd incwm rhwng rhannau cyfoethog o’r DU a Gorllewin Cymru,  un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Ewrop,” meddai.

“Bydd breuddwyd nifer o deuluoedd lleol sydd eisoes yn ymdrechu’n galed i brynu eu cartref cyntaf yn cael eu chwalu gan y cynnydd hwn ym mhris tai.”

Yn ôl gwefan arwerthu ar lein pris cyfartalog tŷ yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd £174,410.

Dywedodd y cynghorydd Carys Jones, sy’n cynrychioli pentref arfordirol Llansteffan yn Sir Gâr, fod prisiau tai yn yr ardal yn “dorcalonus”.

“Mae tŷ teras tair ystafell wely yn Llansteffan ar werth ar hyn o bryd am £375,000,” meddai.

“Byddai cael morgais i’w brynu yn golygu blaendal o £37,500 o leiaf ac ad-daliad misol o £1,430.

“Mae hynny ymhell y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o deuluoedd ifanc lleol.

“Mae’n dorcalonnus gweld pobol ifanc yn gorfod symud i ffwrdd am na fedrant fforddio prynu cartref yn eu pentref eu hunain.

“Mae’r hyn sydd wedi digwydd ym Mhen Llŷn nawr yn digwydd yma.”

Ardaloedd eraill yng Nghymru

Yn ôl ffigurau a gafodd eu cyhoeddi fis Ionawr gan y Cofrestfra Tir, yr ardal ddrutaf yng Nghymru i brynu tŷ yw Sir Fynwy, a’r pris cyfartalog yno yw £276,000.

Mewn cyferbyniad, yr ardal rhataf i brynu tŷ yng Nghymru yw Blaenau Gwent, y pris cyfartalog yno yw £88,000.