Prifysgol Abertawe fydd y prif noddwyr ar flaen crysau tîm pêl-droed y ddinas y tymor nesaf (2020-2021).

Bydd enw’r brifysgol yn ymddangos ar flaen y crysau cartref ac oddi cartref drwy gydol y tymor, wrth i dîm Steve Cooper dreulio tymor arall yn y Bencampwriaeth ar ôl colli allan o drwch blewyn ar le yn ffeinal y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor sydd newydd ddod i ben.

Bydd logo’r brifysgol hefyd ar y crysau, yn ogystal â chrysau’r tîm dan 23 a thîm y merched.

Bydd crysau replica ar gael fel arfer i gefnogwyr.

Bydd partneriaeth addysg y brifysgol a’r clwb hefyd yn parhau, yn ogystal â’r cytundeb i noddi Eisteddle’r Gorllewin yn Stadiwm Liberty.

Bydd brand y brifysgol hefyd i’w weld ar SwansTV Live yn ystod gemau sy’n cael eu ffrydio i’r cefnogwyr.

Ymateb

Dywed y brifysgol eu bod nhw wrth eu boddau o gael nodi crysau’r clwb.

“Gan atgyfnerthu ein partneriaeth â’r clwb pêl-droed fel ei Bartner Addysg Uwch, a gafodd ei hadnewyddu am y tair blynedd nesaf yn ddiweddar, bydd y cytundeb noddi hwn o fudd mawr i Brifysgol Abertawe wrth i ni geisio recriwtio myfyrwyr ar gyfer y dyfodol,” meddai Andrew Rhodes, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe.

“Mae’r berthynas yn ymwneud â mwy na noddi’r clwb gan ei bod yn ymestyn i’r chwaraeon o’r radd flaenaf a gynigir gennym, yn ogystal â rhoi cymorth i fyfyrwyr a’r ardal leol.

“Hoffem ddiolch i bawb yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe am barhau i’n cefnogi ac rydym yn edrych ymlaen at y tymor yn y gobaith y bydd yn un llwyddiannus ar y cae ac oddi arno.”

‘Partneriaeth berffaith’

“Rwy’n falch iawn mai Prifysgol Abertawe fydd ein prif noddwr ar gyfer tymor 2020-21. Dyma bartneriaeth berffaith sy’n cyfleu ein clwb a’n dinas i’r dim,” meddai Rebecca Edwards-Symmons, pennaeth masnachol Clwb Pêl-droed Abertawe.

“Dyma’r tro cyntaf ers pedair blynedd i ni beidio â chynnwys brand betio ar flaen y crys, sy’n rhoi cyfle i’n Junior Jacks wisgo’r un crys â chwaraewyr yr Elyrch sy’n arwyr iddynt.

“Nid oes dim byd gwell i ni fel clwb na meithrin cysylltiadau â brandiau lleol, clodwiw ac rydym yn edrych ymlaen at dymor llwyddiannus iawn i ddod.”