Fe wnaeth siopa ar-lein gyrraedd ei anterth yng Nghymru yn ystod y cyfnod clo dros dro, yn ôl ymchwil newydd.

Dywed Kantar fod 5.9m o bobol wedi prynu bwyd a nwyddau eraill o’r archfarchnad fis diwethaf, tra bod siopa ar-lein yn cyfri am 16.2% o’r farchnad yn ystod yr ail wythnos o gyfyngiadau.

Roedd cynnydd o £10 y pen yng ngwariant cwsmeriaid yn ystod wythnos gynta’r cyfnod clo dros dro hefyd.

Ond yn ôl Kantar, does dim awgrym fod pobol wedi heidio i or-brynu mewn panig.

“Tra bod rhywfaint o gynnydd yng Nghymru, doedd y cynnydd mewn gwariant ddim yn dystiolaeth o bentyrru, a dydy’r ffigurau cychwynnol ddim yn awgrymu unrhyw brynu mewn panig yn Lloegr y chwaith,” meddai Fraser McKevitt, pennaeth mewnwlediad manwerthu a chwsmeriaid Kantar.

“Ond un peth sydd bob amser ym mlaen y meddwl yr adeg hon o’r flwyddyn – y Nadolig – ac mae’n ymddangos bod nifer o bobol wedi ceisio achub y blaen wrth brynu anrhegion cyn i’r siopau gau.”