Wrth i Gymru barhau i lacio’r cyfyngiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r canllawiau ar ymweliadau â chartrefi gofal.

Er bod rhai mesurau yn aros mewn grym, megis profi ymwelwyr ar gyfer ymweliadau dan do a chynnal asesiadau risg ar gyfer ymweliadau, mae cyfyngiadau eraill wedi cael eu llacio.

Nid oes angen i breswylwyr ynysu wrth ddychwelyd ar ôl aros dros nos yn rhywle arall, a chaniateir diddanwyr mewn ardaloedd dan do er mwyn i breswylwyr allu ailgydio mewn gweithgareddau.

Cyhoeddodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fod ymweliadau gan deulu a ffrindiau yn bwysicach nag erioed.

Er bod y canllawiau yn cynghori y dylid bod yn ofalus wrth gael cyswllt corfforol agos megis cofleidio, maen nhw bellach yn rhoi cyngor pellach ar sut mae posib rheoli’r risgiau hyn.

“Lefel mwy normal o ymweld”

“Rwy’n llawn sylweddoli pa mor anodd mae’r pandemig wedi bod i bobol sy’n byw mewn cartrefi gofal, eu hanwyliaid ac yn wir, i’r staff,” meddai Julie Morgan wrth siarad â phreswylwyr cartref gofal Tŷ Enfys yng Nghaerdydd.

“Mae’r effaith y mae’r coronafeirws wedi’i chael ar y sector yn fwy nag unrhyw beth o’r blaen, ac mae pobol sydd angen gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl a’r gweithlu gofal cymdeithasol i gyd wedi cael eu heffeithio.

“Wrth inni symud tuag at adfer, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn cael yr un cyfleoedd â gweddill y boblogaeth i weld eu hanwyliaid eto mewn ffordd ystyrlon yn eu cartrefi, a thu allan.

“Bydd y canllawiau diweddaraf yn llacio cyfyngiadau ymhellach ac yn cefnogi darparwyr cartrefi gofal i symud at lefel mwy normal o ymweld.”

Fframwaith ar gyfer Adfer

Ar ei hymweliad â Thŷ Enfys, fe wnaeth Julie Morgan lansio Fframwaith ar gyfer Adferiad Gofal Cymdeithasol hefyd.

Mae’r fframwaith yn nodi blaenoriaethau ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau adfer brys y mae angen mynd i’r afael â nhw ar unwaith.

Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys:

  • Canolbwyntio ar ailadeiladu llesiant, lleihau anghydraddoldeb, ehangu cyfranogiad a chreu cymdeithas gynhwysol
  • Cefnogi pobl â Covid Hir, gan gynnwys y galw cynyddol am ddarpariaeth gofal cymdeithasol
  • Parhau i sicrhau bod y risg y bydd Covid-19 yn mynd i gartrefi gofal yn cael ei leihau a bod ymweliadau’n cael eu cynnal yn ddiogel
  • Mynd i’r afael â’r effaith andwyol y mae Covid-19 yn ei chael ar ofalwyr di-dâl
  • Gwella telerau ac amodau’r gweithlu gofal cymdeithasol a sicrhau y rhoddir pwyslais parhaus ar gefnogi llesiant ac iechyd meddwl

“Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi’r sector gofal cymdeithasol i symud ymlaen. Mae’r Fframwaith ar gyfer Adferiad Gofal Cymdeithasol yn nodi ein blaenoriaethau brys a thymor byr ar gyfer adfer,” eglurodd Julie Morgan.

“Mae adferiad gofal cymdeithasol yn gyfle i wneud gwelliannau sylweddol a chynaliadwy ar draws y sector.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn defnyddio’r cyfnod adfer hwn i osod y sylfeini cywir ar gyfer dyfodol cryf a chadarnhaol i ofal cymdeithasol yng Nghymru, fel y mae’r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu, gan sicrhau bod y risg bod COVID-19 yn cyrraedd cartrefi gofal yn cael ei leihau a bod ymweliadau’n cael eu cynnal yn ddiogel.”