Mae disgwyl i’r heddlu gael mwy o bwerau parhaol i stopio a chwilio dan strategaeth newydd Boris Johnson i fynd i’r afael â throseddau.
Ar ôl gorffen hunanynysu heddiw (27 Gorffennaf), bydd y Prif Weinidog yn manylu ar ei Gynllun Curo Trosedd newydd.
Bydd y cynllun yn cynnwys llacio’r amodau wrth ddefnyddio pwerau stopio a chwilio, sy’n dweud fod heddlu’n cael chwilio rhywun gyda sail resymol mewn ardal lle mae disgwyl trais difrifol.
Daw ei gyhoeddiad wrth i gadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu baratoi i anfon llythyr at Downing Street i ddangos eu gwrthwynediad dros beidio cael codiad cyflog, a’r modd mae’r cynllun yn cael ei gyhoeddi.
Yn ol Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, mae’r ymrwymiad gan Boris Johnson bod dioddefwyr troseddau difrifol yn gallu cysylltu gyda swyddog yr heddlu yn unigol ynghylch eu hachos, yn “gimic gwirion”.
Diwygiadau
Bydd y diwygiadau yn golygu fod y cynllun peilot sy’n golygu fod lladron yn gorfod gwisgo tag GPS ar ôl gadael y carchar yn cael ei ymestyn yng Nghymru a Lloegr hefyd.
Yng Nghymru, bydd tagiau alcohol ar gyfer pobol sy’n gadael y carchar yn cael eu treialu, mewn ymdrech i gwtogi troseddau sy’n ymwneud ag alcohol.
Mae’r cynllun yn cael gwared ar y cyfyngiadau osododd y cyn-Brif Weinidog, Theresa May, ar bwerau stopio a chwilio’r heddlu pan oedd hi’n Ysgrifennydd Cartref.
Ar hyn o bryd mae Adran 60 yn dweud fod gan yr heddlu hawl i stopio a chwilio mewn ardaloedd penodol yn ystod amseroedd penodol pan gallen nhw ddisgwyl trais difrifol, a gall yr heddlu chwilio am arfau cyn iddyn nhw gael eu defnyddio, neu rai gafodd eu defnyddio mewn ymosodiad diweddar.
Mae’r newid parhaol i’r adran, sy’n seiliedig ar gynllun peilot cenedlaethol, yn golygu fod angen llai o sicrwydd, ac na fydd rhaid pasio cymaint o gamau i gael yr hawl i stopio a chwilio.
“Talu’r gost”
Fe wnaeth Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, sy’n cynrychioli dros 130,000 o swyddogion, basio pleidlais o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yr wythnos ddiwethaf yn sgil ffrae dros gyflogau.
Ni fydd plismyn sy’n gwneud dros £24,000 yn cael codiad cyflog eleni, o gymharu â staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n cael 3%, a diffoddwyr tân a gweithwyr llywodraeth leol a fydd yn cael 1.5%.
Bydd y strategaeth newydd yn cynnwys cynlluniau i greu tablau cenedlaethol ar gyfer amseroedd ateb 101 a 999 yr heddlu, llwyfan cenedlaethol ar-lein i bobol allu cysylltu â’r heddlu, a chryfhau’r ymdrechion wrth fynd i’r afael â gangiau cyffuriau.
Wrth ysgrifennu yn y Daily Mail, dywedodd Priti Patel y bydd gwaith di-dâl yn glanhau strydoedd a llefydd cyhoeddus yn cael ei ailgyflwyno gan fod “y cyhoedd eisiau gweld bod cyfiawnder a gweld troseddwyr yn talu’r gost am eu troseddau”.
“Atal yn well na gwella”
Mae’r cynlluniau’n cynnwys pecyn gwerth £17 miliwn i berswadio pobol ifanc sy’n mynd i adrannau brys neu at yr heddlu ar ôl cael eu trywanu i gadw draw rhag troseddau.
Ond mae Iryna Pona, rheolwr polisi elusen Cymdeithas y Plant, wedi dweud y dylid ymyrryd ymhell cyn i bobol ifanc gyrraedd yr ysbyty.
“Rydyn ni angen bod yn helpu pobol ifanc yn well cyn iddyn nhw gael eu rhuthro i’r adrannau brys yn brwydro am eu bywydau,” meddai Iryna Pona.
“Dydi adnoddau cyfyngedig byrdymor ddim yn mynd ddigon pell er mwyn cynnig y datrysiadau sydd eu hangen dros y wlad.
“Mae help sydd wedi’i dargedu at bobol ifanc a theuluoedd, a gwasanaethau cyffredinol fel clybiau ieuenctid ymhobman, wedi derbyn toriadau ariannol dinistriol gan y llywodraeth dros y ddegawd ddiwethaf.
“Mae buddsoddi mewn dulliau atal cynnar angen bod yn rhan allweddol o strategaeth genedlaethol addas sy’n manylu ar agwedd y Llywodraeth wrth fynd i’r afael â throseddau plant.”