Mae disgwyl i’r rhaglen frechu coronafeirws gael ei hymestyn, gyda chyngor newydd yn argymell y dylai pobl ifanc 16 a 17 oed gael y brechlyn.

Y gred yw y bydd gweinidogion heddiw (Dydd Mercher, 4 Awst) yn cymeradwyo cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) sy’n argymell y dylai pobl ifanc dros 16 oed, sydd heb gael eu brechu, gael y cynnig i gael y brechlyn.

Ar hyn o bryd, dim ond pobl ifanc 16 a 17 oed sydd â chyflyrau iechyd penodol sydd wedi cael cynnig y brechlyn.

Mae plant rhwng 12 a 15 oed sydd â chyflyrau penodol sy’n eu gwneud nhw’n fwy tebygol o gael eu heintio gyda Covid, sydd wedi cael mynediad at y brechlyn, ynghyd a phobl ifanc rhwng 12 a 17 oed sy’n byw gyda pherson sydd ag imiwnedd isel, fel rhiant neu neiniau a theidiau.

Pfizer neu Moderna

Ond yn ôl The Daily Telegraph, The Daily Mail, a The Times mae disgwyl i’r brechlyn gael ei gynnig i bob person ifanc 16 a 17 oed. Mae tua 1.4 miliwn o bobl ifanc 16 a 17 oed yn y Deyrnas Unedig, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae The Times yn adrodd y gallai apwyntiadau for ar gael ymhen pythefnos, tra bod The Daily Telegraph yn dweud y bydd pobl ifanc yn cael cynnig y brechlyn Pfizer neu Moderna.