Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyflwyno’u dyfarniad cychwynnol ar oblygiadau cytundeb masnach rydd y Deyrnas Unedig ag Awstralia i Gymru.
Mae’r Pwyllgor yn galw ar lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i gydweithio â’r sector bwyd ac amaeth i sicrhau bod gan gynhyrchwyr y Deyrnas Unedig y sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen i ffynnu mewn amgylchedd masnachu byd-eang newydd.
Daw’r argymhelliad yn dilyn ymchwiliad byr a gafodd ei gynnal gan y pwyllgor i archwilio’r goblygiadau i Gymru, ac maen nhw wedi cynnig eu casgliadau a’u hargymhellion cychwynnol.
Yn ôl y pwyllgor, fydd y cytundeb ddim yn cael effaith sylweddol ar ffermwyr Cymru yn y tymor byr o ganlyniad i fewnforio cig eidion a chig defaid yn rhad ac am ddim.
Fodd bynnag, dydy’r risgiau tymor hir ddim yn hysbys ac mae’r pwyllgor yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i nodi’r amodau y byddai angen eu bodloni er mwyn i fesurau diogelu amaethyddol ar gyfer mewnforion cig coch ddod i rym.
Er bod y pwyllgor yn fodlon ar lefel yr ymgysylltu rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn ystod y cam ymgynghori, mae eu hadroddiad yn argymell rhannu testun y cytundeb drafft â Llywodraeth Cymru.
Mae hyn er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i roi adborth ar yr effeithiau lleol a rhanbarthol, ac i ddatblygu eu hasesiad eu hunain, sy’n cwmpasu effeithiau ac effeithiau tymor byr fesul sector.
Ac er bod y pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnwys yr effaith ar Gymru yn asesiad effaith y cytundeb, maen nhw’n ailadrodd yr alwad a wnaed yn eu hadroddiad Brexit a Masnach am gynhyrchu asesiadau effaith sylweddol sy’n benodol i Gymru ar gyfer y cytundeb masnach hwn a’r rhai yn y dyfodol.
‘Ansicrwydd i ffermwyr Cymru’
“Ar y cyfan, mae ein Pwyllgor wedi bod yn falch o lefel y cyfathrebu rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wrth i bethau ddatblygu,” meddai Stephen Crabb, cadeirydd y pwyllgor.
“Fodd bynnag, gan nad oes cynlluniau ar gyfer asesiad effaith penodol i Gymru ar hyn o bryd, gellid anwybyddu effaith ardaloedd lleol a rhanbarthol.
“Rydym yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rannu testun y cytundeb drafft â Llywodraeth Cymru fel y gellir archwilio hyn yn briodol.
“Yn dilyn Brexit, mae llawer iawn o ansicrwydd i ffermwyr Cymru.
“Rydym yn credu nad yw’r cytundeb fasnach rydd rhwng y Deyrnas Unedig ag Awstralia yn debygol o fod yn niweidiol i ffermwyr Cymru yn y tymor byr.
“Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen i lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru weithio gyda’r sector i sicrhau eu bod yn gallu goroesi a ffynnu fel rhan o’n trefniadau masnachu newydd a gwneud y gorau o’r cyfleoedd y mae cytundebau masnach yn eu cynnig i gynhyrchwyr Cymru.”
Gofid am effeithiau tymor hir y cytundeb
“Rydym yn croesawu argymhellion y pwyllgor a fyddai, pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei dderbyn, yn nodi cam bach tuag at sicrhau tryloywder a safbwynt synhwyrol ar gytundeb masnach y Deyrnas Unedig ag Awstralia,” meddai Nick Fenwick, pennaeth polisi Undeb Amaethwyr Cymru, wrth ymateb.
“Ar hyn o bryd rydym mewn sefyllfa lle mae’n ddigon posibl ein bod wedi gadael i’r Awstraliaid ddrafftio’r fargen eu hunain.
“Mae datganiad y pwyllgor ei bod yn annhebygol y bydd ffermwyr Cymru’n cael eu heffeithio yn y tymor byr yn siarad cyfrolau: mae’r pryderon a amlygwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru yn ei dystiolaeth i’r pwyllgor yn ymwneud ag effeithiau hirdymor bargen fasnach a fyddai, fel y mae ar hyn o bryd, yn agor y drws i’r posibilrwydd o effeithiau difrifol mewn deng neu bymtheg mlynedd, a gwneud y drws hwnnw bron yn amhosibl ei gau.
“Mae’n bron pawb derbyn y byddai’r fargen hefyd yn gosod cynseiliau ar gyfer cytundebau masnach gyda gwledydd eraill, gan ychwanegu at y pwysau sydd ar ffermwyr Cymru.”