Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu buddsoddi £250m mewn 20,000 o gartrefi carbon isel i’w rhoi ar rent.

Mae hyn yn dyblu gwariant y Llywodraeth ar dai cymdeithasol i’w rhoi ar rent yn 2021-22.

Bydd Julie James, yr Ysgrifennydd Newid yn yr Hinsawdd, yn ymweld ag un o gynlluniau tai cymdeithasol ‘ynni cadarnhaol’ cyntaf Cymru fore heddiw (dydd Mercher, Awst 4).

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cynlluniau’n mynd i’r afael â’r galw cynyddol am dai a’r argyfwng hinsawdd, gan ddarparu cartrefi gwyrdd fforddiadwy o ansawdd da i’r rhai sydd eu hangen.

Dywed Julie James y bydd pob cartref yn cael ei adeiladu i safonau ansawdd ac amgylcheddol newydd, gyda’r nod y bydd rhai o’r stoc yn mynd y tu hwnt i sero net a chynhyrchu mwy o ynni nag y maen nhw’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys defnyddio pethau fel paneli solar a phympiau gwres.

Mae disgwyl cyhoeddiad pellach ar y mater cyn diwedd y mis.

Galw am ‘dargedau mwy uchelgeisiol’

Mae’r Ceidwadwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ‘osod targedau mwy uchelgeisiol’ ar gyfer cartrefi cymdeithasol.

Maen nhw’n cyfeirio at y nifer uchel o bobl sydd ar restrau aros neu mewn cartrefi annigonol.

“Unwaith eto, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gosod y rheng mor isel, byddai’n amhosib i beidio cyrraedd y targed,” meddai llefarydd yr wrthblaid dros Newid Hinsawdd, Janet Finch-Saunders.

“Mae diffyg uchelgais Llafur yn dal cymunedau Cymreig yn ôl ac mae hyn yn golygu bod rhentu cartref cymdeithasol o safon ond yn ffantasi i lawer o bobl.

“Mae gennym ni dros 67,000 o bobl eisoes yn disgwyl ar restrau aros, sydd gyfystyr â 20,000 o dai, ac mae hyn yn annerbyniol.

“Byddai’r targed newydd hyn yn ei chael hi’n anodd cyrraedd y galw am gartrefi ar hyn o bryd, heb sôn am y dyfodol.

“Rhaid i Lafur Cymru feddwl eto o ddifrif am adeiladu tai, a’n sydyn hefyd.”