Mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear wedi mynegi siom ynghylch y penderfyniad i adael i ‘fwd niwclear’ gael ei ollwng ym Môr Hafren.

Dros y penwythnos, fe wnaeth y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) benderfynu gadael i gwmni trydan EDF Energy ollwng mwd a gwaddod o safle Hinkley Point C i’r môr oddi ar arfordir Portishead yng Ngwlad yr Haf.

Roedd yr Awdurdodau Lleol Gwrth-Niwclear (NFLA) a grŵp ymgyrchu Geiger Bay eisoes wedi codi pryderon sylweddol mewn cyflwyniad i’r MMO am iechyd a diogelwch y cynllun.

Yn y cyflwyniad, fe wnaeth yr NFLA ddadlau bod EDF Energy wedi methu casglu data digonol a dibynadwy wrth ymchwilio i effaith y mwd ar y safle lle byddai’n cael ei ollwng.

Mae grwpiau ymgyrchu a grwpiau amgylcheddol bellach yn ceisio cyngor cyfreithiol ar ddogfen yr MMO.

Cyhoeddiad yn “ddau fys”

Mae’r ymgyrchydd gwrth-niwclear a’r cerddor Cian Ciarán, yn un sydd wedi’i siomi efo’r penderfyniad i ollwng mwd oddi ar arfordir Gwlad yr Haf.

“Ddydd Sadwrn, wnaeth y Marine Management Organisation roi trwydded i EDF gael gollwng y mwd oedd i fod i gael ei ollwng ym Mae Caerdydd yn Portishead,” meddai wrth golwg360.

“Wnaethon ni ddadlau bod gollwng y mwd yn yr aber ddim yn cael yr un effaith â beth oedd Cyfoeth Naturiol Cymru a CEFAS (cwmni ymgynghorol i’r EDF) yn honni oedd o’n ei gael, ac fe wnaeth y pwyllgor ymholi gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Mark Drakeford gytuno â hynny.

“Dangosodd y pwyllgor bod y mwd yn llifo i gyfeiriad gwahanol i’r disgwyl, felly hyd yn oed os ydyn nhw’n gollwng y mwd yn Portishead, mae’n mynd i ddod yn ôl i fyny’r sianel am Gymru beth bynnag.

“Mae o’n gwylltio ni yn amlwg.

“Mae o’n ddau fys i gyfraith amgylcheddol, ac maen nhw’n meddwl bod nhw’n cael gwneud fel maen nhw eisiau yn San Steffan.”

Roedd y grwpiau ymgyrchu hefyd yn amheus o benderfyniad yr MMO i gyhoeddi hyn ar benwythnos yng nghanol gwyliau’r haf.

“Mae cyhoeddi hwn ar ddydd Sadwrn yn dan din ofnadwy, gan fod neb yn sylwi,” meddai Cian Ciarán.

“Yn amlwg, maen nhw jyst yn trio cael hyn wedi ei basio yn sydyn.”

Prosiect ‘anghyfrifol’

Roedd y mwd niwclear i fod yn wreiddiol i gael ei ollwng mewn safle ym Mae Caerdydd, ond yn dilyn ymgyrchu brwd a honiadau bod hynny’n fwy peryglus nag oedd yr ymchwil yn ei honni, fe wnaeth EDF Energy newid eu meddyliau.

Bryd hynny, fe wnaeth dros 10,000 o bobol lofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r penderfyniad.

“Mae gan aelodau’r ddwy Senedd a chynghorwyr ddyletswydd i ofyn i Lywodraeth [y DU] – pa hawl sydd gennych chi ollwng y mwd yma sydd am orffen i fyny ar arfordir Cymru, pan mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu grŵp sydd yn dangos bod hynny’n anghywir?” meddai Cian Ciarán.

“Llywodraeth Lloegr sy’n gwthio am hyn, ac adeiladu Hinkley C, achos rydyn ni’n cynhyrchu dwywaith cymaint o drydan yng Nghymru nag ydyn ni’n defnyddio, felly dydy hyn ddim ots i ni.

“Ond eto mae trethdalwyr Cymru yn helpu i dalu am [yr orsaf niwclear].

“A tra’n bod ni mewn argyfwng hinsawdd, mae’r prosiect yma’n anghyfrifol a’n ddau fys i genedlaethau’r dyfodol.”

Dywed Cian Ciarán fod yr ymgyrchwyr eisoes yn edrych ar y camau nesaf wrth herio penderfyniad yr MMO, sy’n cynnwys gweithredu cyfreithiol.

“Rydyn ni’n edrych ar ein hopsiynau cyfreithiol a lobïo’r llywodraethau lleol a chenedlaethol, achos mae ganddyn nhw ddyletswydd yn enwedig ar ôl gwneud y gwaith sy’n dangos y bydd o’n niweidiol.

“Dydy hwn ddim yn fuddugoliaeth o gwbl achos mae’n mynd i effeithio cannoedd os nad miloedd o bobol, felly rydyn ni’n gobeithio cael adolygiad barnwrol.”