Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio’u “cyhoeddiadau gwallus” ar godiad cyflog i holl weithiwyr iechyd yng Nghymru.

Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan i ofyn am eglurder ynghylch a fydd holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd sy’n ennill £9.50 yr awr yn derbyn y codiad cyflog o 3% a gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf.

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud bod gan ei blaid “bryderon mawr” ynghylch cyhoeddiadau gwallus y llywodraeth.

Dywedodd Eluned Morgan fis diwethaf y byddai’r tâl cychwynnol ar gyfer gweithwyr iechyd Cymru yn codi i £10.18 yr awr.

Mae hi bellach wedi cywiro hynny i £9.50 yr awr – sy’n cyfateb i’r cyflog byw go iawn – ac wedi cynnig “ymddiheuriadau diffuant am unrhyw ddryswch”.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi cyhuddo’r llywodraeth o gynnal “adolygiad cyflog gwael”.

‘Ergyd enfawr i staff y Gwasanaeth Iechyd’

Dywed Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn, fod “y fiasco codiad cyflog yma yn enghraifft o’r llywodraeth yn rhoi gyda’r un llaw ac yn cymryd gyda’r llaw arall”.

“Yn gyntaf, mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn addo codiad cyflog o 3%, a bydd y rhai ar y Cyflog Byw yn cael eu codi i £10.18 yr awr,” meddai.

“Y peth nesaf, rydyn ni’n dysgu nid yn unig bod y £10.18 yn anghywir, ond mae’n bosib nad yw’r rhai ar y cyflog isaf yn derbyn codiad cyflog o gwbl.

“Bydd hyn yn ergyd enfawr i’n staff gweithgar yn y Gwasanaeth Iechyd a rhaid i’r llywodraeth nawr egluro sut y daethpwyd i’r datganiadau gwallus hyn.

“Ni fu gwerthfawrogi sgiliau ac ymrwymiad y gweithlu erioed mor bwysig, a dyna pam rwyf wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i anrhydeddu’r addewid codiad cyflog gwreiddiol o 3% a wnaed ar Orffennaf 21ain.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae ein gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf wedi bod yn derbyn codiad mewn cyflog ers i’r gyfradd a argymhellir gan y Sefydliad Cyflog Byw o £9.50 yr awr gael ei gweithredu yn Gwasaneth Iechyd Gwladol yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn parhau i ymrwymo i sicrhau bod cyflog i’r rhai ar y bandiau isaf yn parhau i fod yn unol ag argymhelliad annibynnol y Sefydliad Cyflog Byw, neu’n uwch.”