Roedd cyfraddau marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru ar eu hisaf ers 2014 y llynedd.

Mae ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 9.1% yn llai o farwolaethau’n ymwneud â chyffuriau yn 2020 o gymharu â 2019.

Golyga hynny fod 51.1 marwolaeth ym mhob miliwn yn ymwneud â chyffuriau yng Nghymru.

Er hynny, mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu am yr wythfed flwyddyn yn olynol.

Mae’r ystadegau’n dangos eu bod nhw wedi cyrraedd y lefel uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1993.

Cafodd 4,561 o farwolaethau oedd yn gysylltiedig â gwenwyn cyffuriau eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn 2020, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dyma’r ffigwr uchaf ers dechrau’r cofnodion, ac mae’n gynnydd o 3.8% ers y flwyddyn flaenorol.

Wrth ymateb i’r ystadegau, mae grwpiau cymorth yn dweud bod y cynnydd yn cyfateb i argyfwng iechyd cyhoeddus.

Yr ystadegau

Mae’r ystadegau’n dangos bod y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau wedi cynyddu 60.9% dros y degawd diwethaf – o 49.4 marwolaeth ym mhob miliwn yn 2010 i 79.5 yn 2020.

Roedd dau draean o’r marwolaethau y llynedd yn ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau, a thua hanner yn ymwneud ag opiadau.

Roedd 777 yn ymwneud â chocên, sy’n gynnydd o 9.7% ers 2019.

Dynion oedd dros ddau draean (3,108) o’r rhai fu farw, ac roedd y cyfraddau ar eu huchaf ymysg pobol rhwng 46 a 49 oed, ac wedyn rhwng 40 a 44 oed.

Dros y chwarter canrif ddiwethaf, mae’r gyfradd ar ei huchaf ymysg y genhedlaeth hon, sef pobol a gafodd eu geni yn y 70au.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, un eglurhad posib am y cynnydd yw fod defnyddwyr cyffuriau sy’n heneiddio yn ymateb yn wahanol yn hirdymor i ddefnyddio cyffuriau ac yn dod yn fwy agored i orddos.

Gallai tueddiadau newydd i gymryd cyffuriau penodol, megis benzodiazepines, heroin a morffin, gynyddu’r risg o orddos.

‘Argyfwng iechyd cyhoeddus’

Yn dilyn y cynnydd mewn marwolaethau, mae gwasanaethau sy’n cefnogi pobol sy’n gaeth i gyffuriau yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “ddeffro” ar ôl blynyddoedd o doriadau i wasanaethau dibyniaeth.

“Mae blynyddoedd o doriadau wedi gadael gwasanaethau dibyniaeth heb yr offer i drin pobol ac i atal y marwolaethau hyn rhag codi,” meddai Dr Emily Finch, is-gadeirydd adran ddibyniaeth Coleg Brenhinol y Seiciatryddion.

Daw’r ystadegau yn dilyn adolygiad gan y Fonesig Carol Black, sy’n cyflwyno 30 o argymhellion i Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r mater.

Mae hi hefyd yn galw am fuddsoddiad sylweddol yn system driniaeth ac adfer Lloegr.

Dywedodd cyfarwyddwr cenedlaethol gweithrediadau gyda Turning Point fod posib atal pob marwolaethau sy’n ymwneud â chyffuriau, a bod y cynnydd yn y marwolaethau’n cyfateb i “argyfwng iechyd cyhoeddus”.