Mae’r SNP a’r Blaid Werdd yn agos at gytundeb i gydweithio, yn ôl ffynhonnell.

Fe fu’r trafodaethau rhwng y ddwy blaid ar y gweill ers mis Mai, gyda’r SNP un sedd yn brin o fwyafrif yn dilyn etholiadau Holyrood.

Er iddyn nhw ddweud na fyddai clymblaid rhyngddyn nhw, mae lle i gredu y byddan nhw’n ceisio cydsyniad ar faterion allweddol ac y gallai rhai o Aelodau Seneddol Albanaidd y Blaid Werdd gael eu penodi’n weinidogion yn y llywodraeth.

Mae disgwyl cadarnhad ffurfiol o’r cytundeb ddiwedd yr wythnos hon.

Yn ôl Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, diben y cytundeb yw “dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio er lles pawb”.

Ac mae Patrick Harvie, cyd-arweinydd y Blaid Werdd yn yr Alban, yn dweud bod angen dod o hyd i “wleidyddiaeth aeddfed” wrth ddod i gytundeb.

Cytundeb

Cyn i’r trafodaethau ddechrau, roedd yr SNP a’r Blaid Werdd eisoes yn gytûn ar fater annibyniaeth i’r Alban.

Byddai cytundeb ffurfiol yn sicrhau bod 72 o aelodau yn Holyrood o blaid annibyniaeth – 65 sydd eu hangen am fwyafrif.

Ond wrth ymateb, mae Anas Sarwar, arweinydd y Blaid Lafur, wedi cyhuddo’r Blaid Werdd o fod yn “swyddfa gangen” i’r SNP.

“Dydy’r glymblaid hon ddim yn syndod,” meddai.

“Mae’n ffurfioli realiti hirdymor lle mae Nicola Sturgeon a’r SNP yn colbio ein gwasanaethau cyhoeddus â thoriadau, a’r Blaid Werdd yn nodio.

“Mae angen opsiwn amgen gwirioneddol ar yr Alban sydd yn sefyll i fyny dros ein hadferiad cenedlaethol, y Gwasanaeth Iechyd a swyddi da – nid yr un hen ddadleuon cyfansoddiadol.

“Mae Llafur yr Alban yn adeiladu’r opsiwn amgen hwnnw, ac rwy’n gwahodd pawb yn yr Alban i ymuno â ni ar y daith honno.”