Bydd Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn dychwelyd ym mis Awst ar safle newydd.
Ar y cyntaf a’r trydydd dydd Sadwrn o bob mis, bydd y farchnad yn cael ei chynnal yn Yr Hen Depo bysiau ar Goedlan y Parc, gyda’r cyntaf ar ddydd Sadwrn, 7 Awst.
Bydd newid lleoliad dros dro oherwydd bod parthau diogel yng nghanol y dref yn atal y farchnad rhag gallu cael ei chynnal ar Rodfa’r Gogledd.
Dyma’r tro cyntaf i’r Farchnad gael ei chynnal ers cyflwyno cyfyngiadau Covid-19 ym mis Mawrth 2020.
Yn ystod y cyfnod clo, mae fersiwn ar-lein o’r Farchnad wedi cael ei redeg gan Aberystwyth Food Hub, gyda gwasanaeth clicio a chasglu yn cael ei gynnig.
‘Methu aros’ i ailagor
Mewn cyhoeddiad ar eu tudalen Facebook, dywedodd y Farchnad eu bod nhw’n ailagor ddydd Sadwrn yma (7 Awst).
“Mor braf yw gallu gosod y baneri hyn i fyny eto,” medden nhw.
“Ymweliad safle arall y bore yma a’r trefniadau terfynol yn cael eu paratoi ar gyfer y Farchnad Ffermwyr dydd Sadwrn.
“Methu aros i agor eto a gweld pob un ohonoch i lawr ar y safle newydd – Yr Hen Depo ar Goedlan y Parc o 10yb.
“Cofiwch y byddwch chi dal yn gallu prynu [ar-lein] ond bydd y man casglu yn newid i’r hen ddepo yn lle’r Morlan.”