Mae dyn 19 oed wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio merch 15 oed mewn carafán ger Abergele.

Roedd Matthew Selby o Fanceinion wedi cadarnhau ei enw a’i gyfeiriad yn unig yn ystod gwrandawiad byr gerbron ynadon Llandudno heddiw (Dydd Mawrth, 3 Awst).

Mae wedi’i gyhuddo o lofruddio’r ferch ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhowyn ger Abergele brynhawn dydd Sadwrn (Gorffennaf 31).

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug yfory (dydd Mercher, 4 Awst).

Nid oedd wedi gwneud cais am fechnïaeth.