Mae ymgyrchydd o Felarws, oedd yn rhedeg grŵp ar gyfer helpu Belarwsiaid sy’n dianc rhag cael eu herlid, wedi’i ganfod yn farw yn Kyiv.
Cafodd corff Vitaly Shishov, arweinydd y grŵp Belarusian House yn yr Wcráin, ei ddarganfod wedi’i grogi yn un o barciau’r brifddinas, ddim ymhell o’i gartref, meddai’r heddlu.
Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi’i lansio, gyda’r heddlu’n ceisio darganfod a gafodd y farwolaeth ei gwneud i edrych fel hunanladdiad.
Fe wnaeth y Belarusian House yn yr Wcráin adrodd ddydd Llun (2 Awst) fod Vitaly Shishov wedi diflannu.
Yn ôl Viasna, canolfan hawliau dynol Belarws, dywedodd ffrindiau Vitaly Shishov ei fod e wedi dweud ei fod e’n cael ei ddilyn gan ddieithriaid wrth iddo fynd i redeg yn ddiweddar.
Cefndir
Mae’r Belarusian House yn yr Wcráin yn helpu Belarwsiaid sy’n dianc rhag cael eu herlid, gan eu helpu gyda’u statws cyfreithiol, llety a gwaith.
Yn yr wythnosau diwethaf, mae’r awdurdodau ym Melarws wedi cynyddu’r pwysau ar fudiadau sydd ddim yn cael eu cynnal gan y llywodraeth, a’r wasg annibynnol, gyda dros 200 o gyrchoedd ar swyddfeydd a fflatiau ymgyrchwyr a newyddiadurwyr ym mis Gorffennaf.
Maen nhw hefyd wedi arestio dwsinau o bobol, ac mae’r arlywydd Alexander Lukashenko wedi addo parhau â’r gweithredu yn erbyn ymgyrchwyr cymdeithas sifil.
Fe wnaeth yr arlywydd wynebu misoedd o brotestiadau a ddechreuodd wedi iddo ddod i rym am y chweched tro yn Awst 2020, ar ôl etholiad y mae gwrthwynebwyr a gwledydd y gorllewin yn ei gweld fel un “anonest”.
Mewn ymateb i’r protestiadau, cafodd 35,000 o bobol eu harestio a miloedd eu curo gan yr heddlu.
“Brwydro am y gwir”
Yn ôl datganiad gan y Belarusian House yn Wcráin, cafodd Vitaly Shishov ei orfodi i symud i’r Wcráin yn ystod hydref 2020 gan honni ei fod e dan oruchwyliaeth yn yr Wcráin.
“Nid oes amheuaeth fod hon yn ymgyrch wedi’i chynllunio gan weithwyr diogelwch i lofruddio gŵr o Felarws, oedd yn beryg i’r llywodraeth.
“Byddwn ni’n parhau i frwydro am y gwir am farwolaeth Vitaly,” meddai’r grŵp.