Mae’r rhai o fusnesau ar lawr gwlad Cymru wedi mynegi pryderon am y syniad o dreth ar dwristiaid yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.
Roedd llefarydd economi Plaid Cymru, Luke Fletcher, wedi galw am gyflwyno treth ar dwristiaid yng Nghymru mewn erthygl i bapur The National yr wythnos hon.
Wrth ymateb i hynny, dywedodd y Ceidwadwr Tom Giffard, llefarydd yr wrthblaid dros Dwristiaeth, y byddai hynny’n “ddinistriol” i fusnesau ac i swyddi.
Mae rhai o bobl fusnes y sector lletygarwch mewn rhai o’r trefi mwyaf poblogaidd i dwristiaid yng Nghymru yn amheus y byddai’r arian yn cael ei wario yn y llefydd priodol.
‘Dim angen’ trethu
Mae Oliver Yates, sy’n rheolwr ar gaffi Blue Sky ym Mangor, yn anghytuno efo’r syniad gan ddweud bod twristiaid yn gwario digon yma’n barod.
“Dw i’m yn meddwl bod o’n syniad da yn bersonol,” meddai wrth golwg360.
“Mae twristiaid yn dod â phres i mewn i’r ardal drwy brynu pethau ac aros yma.
“Os ydyn nhw’n hapus ac wedi cael amser da, maen nhw’n dod yn ôl yma a gwario eto.
“Ond wrth gwrs, mae’n anodd gwybod heb fanylion.
“Mae’n hynod o anodd achos mae cymaint o dai yn cael eu prynu yma, a dydy pobl leol methu fforddio nhw, ond efallai bod angen treth uwch ar ail gartrefi yn hynny o beth.
“Ond o ran [rhoi treth ar] dwristiaid sy’n dod yma, maen nhw wedi talu i hedfan yma, neu dalu am betrol i ddod yma, ac maen nhw’n aros dros nos a chael bwyd yma, felly does dim angen.
“Mae rhai ardaloedd yn hoff iawn o dwristiaid ac mae rhai yn casáu nhw, ond mae angen nhw achos eu bod nhw’n dod â llwyth o bres i’r wlad.”
Mae Oliver Yates hefyd yn pryderu y gallai cyflwyno treth ar dwristiaid wneud i lawer ohonyn nhw gadw draw o Gymru.
“Mae’n dibynnu os ydy o’n gwneud i bobl eisiau peidio dod yma a sut mae’n cael ei weithredu,” meddai.
“Ydych chi’n mynd i orfod talu treth ymhobman yn y wlad, neu ai dim ond yn y gogledd neu’r de?
“Mae’n andros o anodd i ddweud ond dw i’m yn meddwl bod angen trethu twristiaid.”
‘Mynd i ryw bot yn rhywle arall’
Mae Glyn Heulyn, perchennog gwesty a thafarn yr Harbwrfeistr yn Aberaeron, yn dweud y byddai’n ansicr bod yr arian yn cael ei wario yn y llefydd iawn.
“Fydden ni ddim yn siŵr i le mae’r arian yn mynd,” meddai wrth golwg360.
“A fyddai’n mynd i wella ardaloedd twristaidd, neu’n mynd i mewn i bot yn rhywle arall?
“Rydyn ni’n talu treth busnes eithaf mawr ar y funud, felly byddai [treth twristiaeth] yn codi llawer o gwestiynau.”
Pe bai’r arian yn cael ei wario ar wella isadeiledd yng Nghymru, byddai Glyn Heulyn yn fwy parod i gefnogi’r syniad o dreth twristiaeth, meddai.
“Pan ti’n mynd i Ffrainc neu Sbaen – ti’n talu dau neu dri ewro’r noson er mwyn y dreth,” meddai.
“Mae’n rhywbeth cyffredin yn fan hynny, a dyw e ddim yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r gost.
“Ond fel dyn busnes, dw i’n amheus o le fydd yr arian yn mynd.
“Mae’r busnes twristiaeth yn gwneud arian dychrynllyd i’r llywodraeth fel mae hi, drwy VAT a threth busnes ac ati.
“Byddai hwn yn dreth arall sy’n mynd i ryw bot lle dydyn ni byth yn ei weld.”
Angen llai o drethi, dim mwy
Roedd perchennog gwesty a thafarn yr Anglesey yng Nghaernarfon, Jeff Harvey, o’r farn y byddai rhoi treth ar dwristiaid yn benderfyniad gwael ar ran Llywodraeth Cymru.
“Dw i’n meddwl ei fod yn syniad drwg – os rhywbeth, mae angen iddyn nhw wneud y gwrthwyneb,” meddai wrth golwg360.
“Yn wleidyddol, byddai’n cael ei weld fel ymddygiad gwael, ond mae’n dibynnu sut fyddai’r arian yn cael ei gasglu a’r weinyddiaeth tu ôl iddo.”
Wrth drafod y potensial o’r arian yn cael ei wario ar isadeiledd lleol, mae Jeff Harvey yn amau byddai hynny’n digwydd yn y lle cyntaf.
“Byddai’n beth da petai hynny’n sicr o ddigwydd,” meddai.
“Mae yna duedd i arian treth gael ei wario mewn llefydd eraill.
“Mae angen i ni fod yn gyfartal ag ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig, oherwydd os fyddai’r arian yn ormod i dwristiaid, bydden nhw’n penderfynu mynd ar wyliau yn Lloegr yn hytrach na Chymru – sy’n wrthgynhyrchiol.
“Rydyn ni fel diwydiant yn talu lefelau uchel o dreth beth bynnag, felly efallai dylen nhw ganolbwyntio ar fuddsoddi’r arian hynny yn fwy priodol yn hytrach na llenwi pocedi ffrindiau Boris [Johnson].”