Mae cwmni Greggs wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu agor tua 100 siop newydd cyn diwedd y flwyddyn, wedi i gynnydd mewn gwerthiant arwain at greu elw eto.
Dywedodd y cwmni pobi fod ganddo gyfle i ehangu i gael 3,000 siop ar ôl gwrthsefyll effeithiau’r pandemig.
Roedd yr adferiad mewn gwerthiant yn ystod y misoedd diwethaf yn “gryfach nag oeddem ni wedi’i ddisgwyl”, gyda masnachu’n gryf mewn ardaloedd dinesig ac ar y stryd fawr, meddai’r cwmni wrth fuddsoddwyr.
Mae gan Greggs gynlluniau i ddatblygu gwasanaethau gyrru trwodd a dosbarthu, wedi i’r pandemig effeithio ar eu masnach mewn llefydd megis canolfannau gwyliau.
Dywedodd y cwmni fod eu gwerthiant ar gyfer y tair wythnos hyd at ddiwedd Gorffennaf eleni 0.4% yn uwch na’r lefelau ar gyfer yr un cyfnod yn 2019, cyn y pandemig.
Mae’r busnes, sydd wedi’i leol yn Newcastle ond sydd â siopau ledled y Deyrnas Unedig, yn disgwyl i’w elw ar gyfer y flwyddyn fod “ychydig yn uwch” nag oedden nhw wedi’i ragweld.
Dros y chwe mis hyd at Fehefin 2021, roedd cyfanswm eu gwerthiannau yn £546.2 miliwn – ychydig llai na’r £546.3 miliwn ar gyfer yr un cyfnod yn 2019.
Fe wnaeth effaith y trydydd cyfnod clo cenedlaethol olygu fod eu gwerthiant wedi gostwng 9.2% o gymharu â 2019, ond gwellodd y sefyllfa wrth iddyn nhw agor 48 siop newydd.
Roedd gan Greggs 2,115 o siopau ar ddechrau Gorffennaf, a byddai eu cynlluniau i agor 100 siop newydd cyn diwedd y flwyddyn yn golygu bod tua 500 o swyddi newydd yn cael eu creu.
“Dangos gwytnwch”
Er hynny, mae’r busnes wedi amlinellu cynlluniau mwy uchelgeisiol gan ddweud “fod ganddyn nhw gyfle i ehangu eu hystâd yn y Deyrnas Unedig i o leiaf 3,000 o siopau”.
“Fe wnaeth Greggs ddangos gwytnwch unwaith eto mewn hanner cyntaf heriol, gan ddod allan o fisoedd y cyfnod clo mewn safle cryf ac yn ailadeiladu gwerthiannau wrth i gyfyngiadau lacio,” meddai prif weithredwr Greggs, Roger Whiteside.
“Tra bod ansicrwydd cyffredinol yn parhau yn y farchnad, rydyn ni nawr yn disgwyl i’r elw blynyddol fod ychydig uwch i’n disgwyliadau blaenorol o ystyried ein perfformiad diweddar.”