Mae cwmni hedfan Qantas yn Awstralia yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i’r cyfnod clo yn Sydney barhau am o leia’ ddeufis arall, a bod 2,500 o’u staff yn cael eu rhoi ar ffyrlo yn sgil gostyngiad yn y galw am hediadau domestig.

Mae Sydney, dinas fwyaf Awstralia, a Brisbane, mewn cyfyngiadau clo yn dilyn cynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Delta o Covid-19.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni hedfan, Alan Joyce, y bydd 2,500 o staff Qantas Airways a chwmni Jetstar yn cael eu rhoi ar ffyrlo am oddeutu deufis. Mae’r cwmnïau yn cyflogi 26,000 o weithwyr yn Awstralia.

Mae Sydney, lle mae pencadlys Qantas, a’r dinasoedd eraill yn nhalaith New South Wales, wedi bod dan gyfyngiadau clo ers 26 Mehefin. Mae’n debygol o barhau tan o leiaf 28 Awst.

Roedd New South Wales wedi cofnodi 199 o achosion newydd o fewn 24 awr ddydd Mawrth (3 Awst).

Yn y cyfamser mae prif weinidog Awstralia Scott Morrison wedi wfftio awgrymiadau gan yr wrthblaid i dalu pobl i gael eu brechu. Dywedodd Scott Morrison bod hynny’n sarhad i bobl Awstralia. Dim ond 19% o oedolion Awstralia sydd wedi cael eu brechu’n llawn hyd yn hyn.

Mae’r rhan fwyaf yn ffafrio Pfizer ond mae cyflenwadau o’r brechlyn yn brin. Mae llawer yn bryderus am y peryglon o geulo gwaed sydd wedi’u cysylltu â brechlyn AstraZeneca, sef yr unig ddewis arall yn Awstralia.