Mae’n bosib y bydd pobol yn gallu ethol cynghorwyr lleol wrth orffen gwersi neu wneud eu siopa wythnosol, fel rhan o ymgyrch i wneud pleidleisio’n haws.

Mae Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol yn ymchwilio i weld a fydd hi’n bosib treialu trefniadau pleidleisio hyblyg ar gyfer yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.

Un o’r pethau sy’n cael eu hystyried yw rhoi’r cyfle i bobol bleidleisio mewn amrywiaeth o wahanol fannau er mwyn gwneud hi’n haws i bobol gan eu bod nhw’n cael mynd i fwrw eu pleidlais mewn lle cyfarwydd.

Byddai cynnal gorsafoedd pleidleisio mewn ysgolion uwchradd a cholegau’n ei gwneud hi’n haws i bobol ifanc gymryd rhan, meddai Llywodraeth Cymru, gan fod pobol 16 ac 17 nawr yn cael pleidlais.

Mae canolfannau hamdden ac archfarchnadoedd yn cael eu hystyried hefyd.

Trefniadau mwy hyblyg

Yn ogystal, byddai’n bosib gweithredu trefniadau pleidleisio mwy hyblyg drwy ganiatáu i bobol bleidleisio’n gynnar.

Gallai hynny olygu bod gorsafoedd ar agor ar y diwrnod neu’r penwythnos cyn yr etholiad, neu efallai dros nifer o ddiwrnodau.

Byddai hynny’n ategu’r trefniadau pleidleisio drwy’r post, gan roi mwy o ddewis i bobol sydd am bleidleisio o flaen llaw.

Efallai y bydd pobol yn cael bwrw eu pleidlais mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn ardal yr awdurdod lleol hefyd, yn lle gorfod pleidleisio mewn gorsaf benodol.

Ar hyn o bryd, y cyfeiriad lle mae’r unigolyn yn byw sy’n pennu’r orsaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai angen systemau digidol ar gyfer gweithredu cofrestrau etholwyr os ydyn nhw am roi’r syniad hwnnw ar waith, a byddai eu treialu’n datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r ffordd orau o weithredu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu’r syniadau hyn mewn llythyr ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda’r bwriad o ymchwilio ymhellach iddyn nhw yn yr etholiadau fis Mai nesaf.

Ar hyn o bryd, mae’r awdurdodau lleol yn ystyried a ydyn nhw am fwrw ymlaen ag unrhyw syniadau ar gyfer etholiadau lleol 2022.

Bydd unrhyw wersi sy’n cael eu dysgu yn helpu i ddatblygu’r trefniadau ar gyfer etholiadau’r dyfodol, gan gynnwys etholiad y Senedd yn 2026 a’r etholiadau llywodraeth leol yn 2027.

“Democratiaeth yn nes at bawb”

Dywedodd Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, eu bod nhw’n awyddus i’w gwneud hi “mor hawdd â phosibl i bobol bleidleisio”.

“Rydyn ni’n awyddus i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobol bleidleisio, a dyna pam rydyn ni’n edrych ar drefnu iddynt allu pleidleisio mewn amrywiaeth o safleoedd, gan gynnwys siopau ac ysgolion,” meddai Mick Antoniw.

“Dylai democratiaeth fod yn rhan o’n bywydau ni i gyd, ac os bydd mwy ohonom yn cymryd rhan, bydd hynny’n arwain at sefyllfa lle bydd y cynrychiolwyr sy’n cael eu hethol yn gwneud polisïau gwell, a bydd y polisïau eu hunain yn adlewyrchu barn a phrofiad pawb ohonom yn fwy cywir.

“Bydd y cynlluniau pleidleisio peilot hyn yn ein helpu i ddeall yn well sut y gallwn ni sicrhau bod mwy o bobol yn bwrw eu pleidlais.

“Drwy wneud y trefniadau’n fwy hyblyg, rydyn ni’n credu y bydd yn haws i bobol bleidleisio, gan ddod â democratiaeth yn nes at bawb.”

“Trafodaethau adeiladol”

“Rydyn ni wedi cael trafodaethau adeiladol gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â’r angen i foderneiddio sut mae etholiadau’n gweithio,” meddai Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

“Rydyn ni nawr yn annog awdurdodau lleol i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu ffyrdd o gynnal etholiadau yn y dyfodol yng Nghymru.

“Byddai treialu dulliau newydd yn etholiadau mis Mai 2022 yn gam cyntaf mewn proses tymor hirach a allai arwain at newidiadau sylfaenol i sut mae pobl yn arfer eu hawl democrataidd i bleidleisio ledled Cymru yn y dyfodol.”

“Ymgysylltu effeithiol”

Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod democratiaeth yn dibynnu ar ymgysylltu effeithiol.

“Mae democratiaeth iach yn dibynnu ar ymgysylltu effeithiol, ac ar gynnal etholiadau hygyrch sy’n gweddu i anghenion presennol pobl yn ein cymunedau lleol,” meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan.

“Mae trafodaethau adeiladol eisoes wedi dechrau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn edrych ar ffyrdd newydd o ddod â democratiaeth yn nes at bawb, a byddwn ni’n edrych ymlaen at ymchwilio i ffyrdd ymarferol o weithredu’r syniadau hyn mewn cymunedau ar draws Cymru.”