Mae gweinidogion San Steffan wedi sgrapio cynlluniau i greu rhestr o wledydd sydd mewn perygl o fynd o’r categori oren i goch, wrth i Boris Johnson addo cadw rheolau teithio mor syml â phosib.

Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ystyried creu categori newydd – “rhestr wylio oren” – ar gyfer gwledydd sydd mewn peryg o gael eu symud at y rhestr goch.

Ar hyn o bryd mae rhestr o wledydd yn y categori gwyrdd, oren a choch ar sail yr achosion o Covid-19.

Ond, yn dilyn beirniadaeth gan Aelodau Seneddol Ceidwadol, pryderon ymhlith gweinidogion, a chwynion gan y sector teithio, mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau na fydd y rhestr o wledydd yn cael ei chreu.

Mae’r Blaid Lafur wedi galw am gyhoeddi holl ddata y rhestrau coch, oren a gwyrdd.

Daeth rheolau newydd ar gyfer pobol wedi’u brechu’n llawn sy’n dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Unol Daleithiau i rym ddoe (2 Awst).

Roedd adroddiadau’n awgrymu bod ffraeo ymysg gweinidogion y Cabinet dros y cynlluniau i gyflwyno’r rhestr.

Bwriad y rhestr honno fyddai rhybuddio teithwyr y gallai gwledydd gyda data Covid-19 sy’n achosi pryder – a allai gynnwys yr Eidal a Sbaen – symud at y rhestr goch ar fyr rybudd.

“Mor syml â phosib”

Dywedodd Boris Johnson ei fod e’n deall faint mae pobol yn cynllunio a pharatoi ar gyfer gwyliau haf pan ofynnwyd iddo am ei farn ar y cynlluniau.

“Ond mae’n rhaid i ni gofio fod hwn dal yn feirws peryglus ac mae’n rhaid i ni drio stopio amrywiolion rhag dod mewn, rhaid stopio mewnforio amrywiolion o dramor, felly mae’n rhaid i ni gael cydbwysedd,” meddai Boris Johnson.

“Dw eisiau gweld rhywbeth sydd mor syml a hawdd i bobol ei ddefnyddio â phosib.”

Dywedodd y Prif Weinidog fod llwyddiant y rhaglen frechu yn golygu fod economi’r Deyrnas Unedig “bron â bod yr un fwyaf agored yn Ewrop”, ond bod angen cael cydbwysedd gyda theithio yn sgil y risgiau o fewnforio amrywiolyn newydd.

“Mae’n rhaid i ni gydnabod hefyd fod pobol wirioneddol eisiau mynd ar eu gwyliau haf, rydyn ni angen i’r diwydiant teithio weithredu eto, rydyn ni angen agor canol ein dinasoedd, ac felly rydyn ni eisiau cymryd agwedd sydd mor syml ag y gallwn ei gwneud hi.”

“Dryswch ychwanegol”

Cyn y cyhoeddiad fod San Steffan wedi cael gwared ar gynlluniau ar gyfer y rhestr, dywedodd prif weithredwr y cwmni ymgynghori PC Agency wrth Good Morning Birtain y byddai creu’r rhestr yn “drychineb”.

Mae’r rhestr ‘oren plus’ yn dal i fodoli, a dim ond Ffrainc sydd arni ar hyn o bryd. Mae’n rhaid i deithwyr sy’n dychwelyd o Ffrainc hunanynysu wrth ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig, er bod y rheolau wedi’u llacio ar gyfer gweddill Ewrop.

Rhybuddiodd cadeirydd y Blaid Lafur, Annaliese Dodds, y byddai creu’r rhestr yn creu “dryswch ychwanegol”.

“Y broblem yw, dydi pobol sy’n mynd ar eu gwyliau ddim yn gwybod pwy i gredu ar y funud,” meddai Annaliese Dodds wrth Times Radio, gan ychwanegu ei bod hi’n “ymddangos fod gennym ni Ganghellor sy’n briffio yn erbyn y Prif Weinidog yn y papurau ar y Sul”.

“Yn y bôn, dydi hynny ddim yn adeiladu hyder yn y system.”

Yn ôl y Daily Telegraph, roedd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps wedi bod yn gwthio i gael gwared ar y cynlluniau, tra bod y Canghellor Rishi Sunak wedi dweud fod rheolau teithio’r Deyrnas Unedig yn niweidio’r economi a “ddim yn cyd-fynd â’n cystadleuwyr rhyngwladol”.

Bydd gweinidogion yn adolygu’r system rhestrau ddydd Iau (4 Awst), gan benderfynu pa reolau fydd mewn grym ar gyfer y rhan fwyaf o fis Awst.

Mae rheolau teithio rhyngwladol Cymru wedi dilyn rhai’r Deyrnas Unedig, ar y cyfan, yn ystod y pandemig.

Er hynny, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i annog pobol i beidio teithio dramor eleni, oni bai bod rhaid.