Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, o “osgoi craffu” a “rhedeg i ffwrdd” rhag ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig.

Daw hyn yn dilyn gohebiaeth rhwng Eluned Morgan a Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, lle mae e’n honni iddi wrthddweud ateb a roddodd yn Senedd Cymru fis diwethaf.

Ar 7 Gorffennaf, gwrthododd Eluned Morgan alwadau gan Russell George am ymchwiliad Covid-19 pwrpasol yng Nghymru, gan nodi ei bod hi’n “anodd iawn gwahaniaethu’r hyn oedd yn digwydd yng ngweddill y Deyrnas Unedig o’r hyn sy’n mynd ymlaen yma”.

Fodd bynnag, yn ôl Russell George, pan ofynnodd am fanylion am yr hyn a oedd yn “anodd iawn ei wahaniaethu” mewn cwestiwn ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog nad oedd hi’n “credu bod unrhyw feysydd o’r fath, er bod achosion, wrth gwrs, lle mae penderfyniadau o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi effeithio, ac wedi cael canlyniadau yn ffurfio penderfyniadau sydd o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru”.

O ganlyniad, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cwestiynu pam nad yw Gweinidogion y Llywodraeth yn credu bod ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig yn briodol.

Galwadau o’r newydd

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Ceidwadwyr alw am ymchwiliad.

Ar 8 Mehefin, galwodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu “ymchwiliad cyhoeddus annibynnol” i’r pandemig Covid-19 yng Nghymru.

Gwrthododd y Prif Weinidog Mark Drakeford bryd hynny, gan ddweud ei fod wedi “cytuno gyda Llywodraeth San Steffan ein bod yn mynd i fod yn rhan o’r ymchwiliad cyhoeddus mae’r Prif Weinidog wedi’i gyhoeddi”.

‘Dirmyg’

“Mae’r modd y mae Llafur yn gwrthod craffu ar y defnydd ehangaf erioed o bwerau gan Lywodraeth Cymru – tra’n galw am fwy o ddatganoli ar yr un pryd – yn tanseilio’r Senedd y maent yn honni eu bod yn ei chefnogi,” meddai Russell George.

“Mae’r agwedd honno gan yr Ysgrifennydd Iechyd yn dangos dirmyg tuag at y rhai sydd wedi dioddef effeithiau’r feirws a’r cyfyngiadau symud yng Nghymru, tra nad yw osgoi ymchwiliad ddim ond yn codi amheuon.

“Mae pobol yng Nghymru yn haeddu atebion llawn a thryloyw ynghylch pam y gwnaeth eu Llywodraeth yr hyn wnaethon nhw yn ystod y pandemig – penderfyniadau da a drwg – nid rhyw “is-adran” mewn adroddiad mwy ledled y Deyrnas Unedig lle gall Llywodraeth Cymru osgoi atebolrwydd, fel y maen nhw eisiau.”