Mae dyn 19 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio merch 15 oed ar barc gwyliau ger Abergele.

Daw hyn yn dilyn digwyddiad domestig ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhowyn brynhawn dydd Sadwrn (Gorffennaf 31).

Mae Matthew Selby wedi’i gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon heddiw (dydd Mawrth, Awst 3).

Mae Heddlu’r Gogledd yn atgoffa pobol i beidio â thrafod yr achos ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i’r ymchwiliad barhau.

Ty Mawr

Parc gwyliau Tŷ Mawr: heddlu’n cadarnhau marwolaeth merch 15 oed

Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ac yn cael ei holi yn y ddalfa
Ty Mawr

“Digwyddiad trasig” a “difrifol” mewn parc gwyliau yn Abergele

Heddlu wedi’u galw i barc Tŷ Mawr brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 31)