Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau bod merch 15 oed wedi marw ym mharc gwyliau Tŷ Mawr ger Abergele.

Daw hyn yn dilyn digwyddiad yno ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 31).

Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa yn Llanelwy.

Yn ôl yr heddlu, cawson nhw eu galw i ddigwyddiad “domestig”.

Ty Mawr

“Digwyddiad trasig” a “difrifol” mewn parc gwyliau yn Abergele

Heddlu wedi’u galw i barc Tŷ Mawr brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 31)