Mae pedwar o bobol, gan gynnwys tri o blant, wedi cael eu hachub yn dilyn tân mewn fflat ar y seithfed llawr uwchben gwesty yng Nghaerdydd.

Bu’n rhaid gwagio’r adeilad cyfan yn dilyn y digwyddiad yng ngwesty’r Plaza yn oriau man bore heddiw (dydd Sul, Awst 1).

Cafodd deg injan dân eu hanfon i’r digwyddiad toc ar ôl 1 o’r gloch, a chafodd pedwar o bobol eu cludo i’r ysbyty heb fod wedi’u hanafu.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi’r tân, ond llwyddodd y gwasanaethau brys i gyfyngu’r fflamau i un fflat.

Cafodd nifer o bobol eu symud o’r safle, ac roedd y tân dan reolaeth erbyn 5 o’r gloch.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint o ddifrod fu i’r gwesty.