Fyddai Llywodraeth Prydain ddim yn ceisio atal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban os mai dyna “ewyllys y bobol”, yn ôl Michael Gove.
Mae San Steffan wedi gwrthod nifer o geisiadau gan Lywodraeth yr Alban am y pwerau angenrheidiol i ddechrau’r broses.
Ond fe fyddai’n “digwydd” pe bai pobol yr Alban yn dymuno hynny, yn ôl gweinidog y Swyddfa Gabinet.
Daw sylwadau Michael Gove wrth i arolwg gan Panelbase awgrymu bod llai o bobol o blaid annibyniaeth i’r Alban erbyn hyn.
Er bod y rhan fwyaf o bobol o blaid annibyniaeth drwy gydol 2020, gydag un yn dangos bod 58% o blaid, mae’r nifer sydd o blaid wedi gostwng yn raddol yn ystod 2021.
Yn ôl yr arolwg diweddaraf gan Panelbase ar ran y Sunday Times, dim ond 48% o’r 1,287 o bobol a gafodd eu holi oedd o blaid gadael y Deyrnas Unedig.
‘Egwyddor – ond nid ar hyn o bryd’
“Mae’r egwyddor fod pobol yr Alban, o dan yr amgylchiadau cywir, yn gallu gofyn y cwestiwn hwnnw eto yno,” meddai Michael Gove wrth y Sunday Mail.
“Dw i jyst ddim yn meddwl ei fod yn iawn, a dydy’r cyhoedd ddim yn meddwl ei fod yn iawn, gofyn y cwestiwn hwnnw ar hyn o bryd.
“Os yw’n wir fod yna ewyllys sefydledig o blaid refferendwm, yna fe fydd yna un yn digwydd.”
Dydy hi ddim yn glir beth fyddai’r llinyn mesur ar gyfer “ewyllys” y bobol, ond fe allai olygu y byddai’n rhaid i bleidiau o blaid annibyniaeth sicrhau mwyafrif mewn etholiadau neu bod arolygon yn parhau i fod o blaid annibyniaeth am gyfnod penodol.