Mae ymchwiliad Heddlu’r Gogledd yn parhau ar ôl iddyn nhw gael eu galw i “ddigwyddiad trasig” a “difrifol” mewn parc gwyliau yn Abergele ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 31).
Cawson nhw eu galw i garafan ar safle parc gwyliau Tŷ Mawr, ac mae lluniau o’r safle’n dangos dwsinau o bobol wedi ymgasglu wrth ymyl ambiwlans awyr a cheir yr heddlu.
Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau union fanylion y digwyddiad, ond roedden nhw i’w gweld yn diogelu safle un garafan.
Yn syth wedi’r digwyddiad, dywedodd yr heddlu nad oedd “perygl i’r cyhoedd”, ond roedd gofyn i bobol gadw draw o’r safle.
‘Sioc a thristwch’
“Rydyn ni wedi cael sioc ac yn drist yn sgil y digwyddiad trasig hwn,” meddai llefarydd ar ran parc gwyliau Tŷ Mawr.
“Parc teuluoedd 100 erw yw Tŷ Mawr, sy’n croesawu degau o filoedd o bobol hapus ar eu gwyliau bob blwyddyn.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad unigol di-gynsail y tu fewn i garafan sydd bellach yn safle trosedd.
“Mae ein tîm yn cynorthwyo’r heddlu â’u hymchwiliad, a chan ei fod yn fater heddlu, fedrwn ni ddim gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.”