Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n cadw “meddwl agored” yn dilyn marwolaeth bachgen pump oed y cafwyd hyd iddo mewn afon ger Pen-y-bont ar Ogwr ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 31).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5.45yb, yn dilyn adroddiadau bod plentyn ar goll yn ardal Sarn.

Daeth swyddogion o hyd i gorff y bachgen yn afon Ogwr ger Parc Pandy.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond roedd yn farw.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd.

“Mae hwn yn ddigwyddiad ofnadwy o drist, lle mae plentyn ifanc yn anffodus wedi marw,” meddai’r Prif Arolygydd Geraint White.

“Rydyn ni’n cydymdeimlo’n arw gyda’r teulu, ac yn barod i’w cefnogi ym mhob ffordd y gallwn ni.”

Mae’r teulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Logo Golwg360

Darganfod corff bachgen ifanc mewn afon ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5.45 y bore yma (dydd Sadwrn) yn dilyn adroddiadau fod plentyn ar goll yn ardal Sarn