Mae disgwyl “miloedd” o ddiswyddiadau wrth i reolau’r cynllun ffyrlo newid eto heddiw (dydd Sul, Awst 1).
O hyn ymlaen, mae disgwyl i gyflogwyr dalu 20% o gyflogau’r gweithwyr sydd ar ffyrlo ac sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Prydain.
Yn ôl arolwg, mae un o bob pump o gwmnïau’n bwriadu diswyddo staff wrth i’r rheolau gel eu newid.
Bwriad y cynllun ffyrlo oedd diogelu swyddi’r staff hynny y bu’n rhaid oedi eu swyddi yn ystod y pandemig Covid-19 fel bod ganddyn nhw swyddi i fynd yn ôl iddyn nhw maes o law, gyda’r llywodraeth yn talu hyd at 80% o’u cyflogau.
Ond mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu dirwyn y cynllun i ben yn llwyr erbyn mis Hydref.
Y cynllun hyd yn hyn
Ym mis Gorffennaf, roedd yn rhaid i gyflogwyr dalu 10% o gyflogau’r gweithwyr, tra bo cefnogaeth y llywodraeth wedi gostwng o 80% i 70%.
O heddiw (dydd Sul, Awst 1), bydd y ffigwr yn gostwng eto i 60%, ac mae disgwyl i gyflogwyr dalu 20% o’r cyflog ffyrlo ar gyfer misoedd Awst a Medi.
Ond mae’r Siambr Fasnach yn rhybuddio y bydd y newid diweddaraf yn arwain at golli miloedd o swyddi, ac maen nhw’n galw ar weinidogion i sicrhau bod y gweithwyr sy’n cael eu heffeithio’n gallu ail-hyfforddi.
Roedd 1.9m o bobol yn dal ar ffyrlo erbyn mis Mehefin, i lawr o 2.4m fis ynghynt.
Pobol dros 65 oed yw’r rhan fwyaf o’r staff sy’n dal ar ffyrlo, ac mae pryderon y byddan nhw’n ei chael hi’n fwy anodd dod o hyd i waith eto.
O blith 250 o fusnesau â staff ar ffyrlo, roedd 18% yn debygol o ddiswyddo staff ar ôl i’r rheolau newydd ddod i rym.
Dywedodd 25% eu bod nhw am leihau oriau staff neu symud staff i weithio’n rhan amser.
Dywedodd ychydig yn llai na 15% y byddai’n rhaid iddyn nhw ganslo cynlluniau buddsoddi.
Ond dywedodd 40% na fyddai’r drefn newydd yn cael effaith arnyn nhw.
Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng Gorffennaf 5-23, ac roedd gan y busnesau wnaeth ymateb o leiaf un aelod o staff ar ffyrlo.
Ymateb Llywodraeth Prydain
“Mae ein Cynllun ar gyfer Swyddi yn llwyddo, ac wedi cefnogi bywoliaethau gweithwyr drwy gydol y pandemig, a’r disgwyl yw y bydd dwy filiwn yn llai o bobol yn ddiwaith na’r rhagolygon y llynedd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain.
“Yn fwriadol, aethon ni’n hirdymor gyda’n cefnogaeth, gyda ffyrlo yn ei le hyd at ddiwedd mis Medi, a thair miliwn o weithwyr yn dod oddi ar y cynllun ers mis Mawrth.
“Wrth i’r economi daro’n ôl, mae’n briodol fod cefnogaeth ffyrlo yn lleihau fel y gallwn ni ganolbwyntio ein cefnogaeth yn rhywle arall.
“Rydym wedi bod yn glir erioed nad yw’n bosib achub pob swydd, ond mae ein Cynllun ar gyfer Swyddi yn helpu pobol o bob oed i ddod o hyd i’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddychwelyd i’r gwaith, gan gynnwys trwy’r Cynllun Ailddechrau, y rhaglen academi gwaith yn seiliedig ar sector, a’n cynllun Cefnogaeth wedi’i Thargedu at Fynediad at Swyddi.”