Mae tri o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio bachgen pump oed y cafwyd hyd i’w gorff yn afon Ogwr.

Cafwyd hyd i gorff y bachgen yn yr afon ger Parc Pandy.

Mae dyn 39 oed, dynes 30 oed a bachgen 13 oed yn cael eu holi yn y ddalfa.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De.

 

Logo Golwg360

Marwolaeth bachgen pump oed: heddlu’n cadw “meddwl agored”

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr fore ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 31)
Logo Golwg360

Darganfod corff bachgen ifanc mewn afon ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5.45 y bore yma (dydd Sadwrn) yn dilyn adroddiadau fod plentyn ar goll yn ardal Sarn