Mae pobol sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn Covid-19 bellach yn cael teithio o’r Undeb Ewrop a’r Unol Daleithiau i’r Deyrnas Unedig heb orfod mynd i gwarantîn ar ôl cyrraedd.
Newidiodd y rheol am 4am fore heddiw (dydd Llun, Awst 2) yn dilyn penderfyniadau gan lywodraethau’r Deyrnas Unedig yr wythnos ddiwethaf.
Fydd dim rhaid i bobol sy’n dychwelyd o wledydd sydd ar y rhestr oren hunanynysu am ddeng niwrnod wrth ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig os ydyn nhw wedi cael eu brechu’n llawn.
Dydi’r newid ddim yn berthnasol i bobol sydd wedi bod yn Ffrainc o fewn deng niwrnod i’r amser maen nhw’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, yn sgil pryderon am amrywiolyn Beta.
Bydd rhaid i deithwyr ddangos prawf negyddol cyn hedfan, a phrawf PCR negyddol o fewn deuddydd ar ôl dychwelyd.
Fydd dim rhaid cymryd prawf PCR ar ddiwrnod wyth mwyach.
Bydd rhaid i bobol sy’n cyrraedd ddangos Tystysgrif Covid Ddigidol yr Undeb Ewropeaidd neu gerdyn gwyn Canolfannau’r Unol Daleithiau ar gyfer Rheoli ac Atal Afiechydon er mwyn profi eu bod nhw wedi cael eu brechu’n llawn.
Mae’r rheolau’n cynnwys y gwledydd sy’n rhan o Gymdeithas Fasnach Rydd Ewrop – y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein – yn ogystal â Monaco, Andorra a’r Fatican.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod “risgiau o hyd wrth ailddechrau teithio rhyngwladol” ac o “gael gwared ar gyfyngiadau cwarantîn i’r rheiny sy’n cyrraedd o’r Unol Daleithiau a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ar y rhestr oren sydd wedi’u brechu’n llawn”.
Maen nhw’n parhau i rybuddio pobol rhag teithio dramor dros yr haf os nad yw’n hanfodol, ond maen nhw’n dweud y “byddai’n aneffeithiol i gyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru”, a hynny “gan ein bod yn rhannu ffin agored â Lloegr”.