Mae cyfnod clo Brisbane, trydedd dinas fwyaf Awstralia, wedi cael ei ymestyn yn dilyn achosion newydd o Covid-19.

Roedd disgwyl i’r cyfnod clo ddod i ben yfory (dydd Mawrth, Awst 3), ond mae wedi’i ymestyn tan ddydd Sul nesaf (Awst 8) yn dilyn 13 o achosion o amrywiolyn Delta dros y 24 awr diwethaf.

Mae Sydney a’r ardaloedd cyfagos wedi bod dan glo ers chwe wythnos, gyda llywodraeth talaith New South Wales yn adrodd am 207 o achosion newydd heddiw (dydd Llun, Awst 2).

Mae gwleidyddion Awstralia sy’n cyfarfod wyneb yn wyneb yn cael profion dyddiol ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid iddyn nhw wisgo mygydau a chadw pellter oddi wrth ei gilydd.

Llacio’r cyfyngiadau yn Seland Newydd

Yn y cyfamser, mae llywodraeth Seland Newydd yn bwriadu llacio’r cyfyngiadau yno er mwyn galluogi gweithwyr o Ynysoedd y De i fynd yno i weithio ar gynaeafu cnydau.

Mae disgwyl i rai gweithwyr o Samoa, Tonga a Vanuatu gael mynediad i’r wlad heb orfod dilyn y drefn arferol o fynd i gwarantîn am bythefnos, ond dydy’r union fanylion ddim wedi cael eu cadarnhau eto.

Dydy hi ddim yn glir eto faint o weithwyr fydd yn cael mynd i’r wlad, ond mae’r wlad ryw 3,000 o weithwyr yn brin o’r 10,000 sydd eu hangen.

Does dim achosion torfol o Covid-19 yn Ynysoedd y De ar hyn o bryd, lle bu dim ond saith o achosion i gyd ers dechrau’r pandemig.