Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o gynnal “adolygiad tâl diffygiol” ar ôl iddyn nhw gyhoeddi – ar gam – y byddai’r gweithwyr iechyd ar y cyflogau isaf yn derbyn codiad cyflog.
Dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, y byddai’r isafswm cyflog yn codi i £10.18 yr awr, ond cywirodd hi ei hun yn ddiweddarach gan ddweud mai £9.50 yr awr oedd y swm cywir, a hynny’n gyfystyr â’r cyflog byw.
Wnaeth hi “ymddiheuro’n ddiffuant am unrhyw ddryswch”.
Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, y byddai’n “ergyd wirioneddol” i’r gweithwyr iechyd ar y cyflogau isaf, ac fe wnaeth e alw ar weinidogion Llywodraeth Cymru i “fynd i’r afael â’r dryswch ar frys” ac i gadw at y cyhoeddiad gwreiddiol.
‘Ergyd wirioneddol’
“Dyma ergyd wirioneddol i’r gweithwyr ar y cyflog isaf yn y Gwasanaeth Iechyd,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru.
“Yn ystod y pandemig mae’r gweithwyr hyn wedi mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd trwy ddarparu gofal rhagorol ac mewn rhai achosion gwneud hynny heb offer amddiffyn personol digonol.
“Rhaid i Weinidogion fynd i’r afael ar frys â’r dryswch ynghylch yr adolygiad cyflog diffygiol hwn ac anrhydeddu’r codiad cyflog gwreiddiol, a gyhoeddwyd yn gyhoeddus fel cam cyntaf i wir werthfawrogi gweithlu’r GIG.”
‘Camgymeriad gonest’
“Rwy’n falch fod y Gweinidog wedi egluro’i datganiad ac wedi ymddiheuro,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Rwy’n siŵr nad oes neb yn dymuno unrhyw ddrwg iddi am gamgymeriad gonest.
“Gobeithio nad oes yna unrhyw staff Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio’n galed oedd wedi codi’u gobeithion ar sail y camgymeriad hwn a wnaeth i’r rhai ar y cyflogau isaf yn y sector gredu eu bod nhw am gael £1,300 ychwanegol y flwyddyn.
“Gadewch i ni gydweithio er mwyn gwneud y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n lle deniadol i weithio.”