Mae 70 o swyddi wedi cael eu diogelu yn y safle cynhyrchu gwellt papur mwyaf yn Ewrop yn dilyn cymorth gan Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru.

Cafodd Transcend Packaging yng Nghaerffili, sy’n gwneud gwellt papur a deunydd pacio cynaliadwy arall ar gyfer bwytai gwasanaeth cyflym megis McDonald’s, ei effeithio’n ddifrifol gan y pandemig.

Mae’r busnes o Ystrad Mynach wedi derbyn £165.5miliwn gan Lywodraeth Cymru.

“Heriau anhygoel”

“Mae Transcend Packaging yn fusnes pwysig ym mwrdeistref sirol Caerffili, gan ddarparu swyddi o ansawdd da yn y gymuned leol,” meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi cymorth hanfodol i’r busnes pan oedd ei angen fwyaf.

“Mae coronafeirws wedi newid bywydau pawb ac wedi gosod heriau anhygoel o anodd ar ein cymuned fusnes. Mewn ymateb, rydym wedi gweithio’n galed i geisio amddiffyn cwmnïau, swyddi a bywoliaethau drwy becyn cymorth digynsail.

“Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn rhan allweddol o hynny ac edrychaf ymlaen at weld Deunydd Pacio Transcend yn dod yn ôl ar ôl y pandemig.

“Hoffwn ychwanegu fy niolch diffuant am y ffordd y gwnaeth helpu i roi hwb i’n hymdrechion i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol hanfodol y llynedd.

“Helpodd hyn i ddiogelu llawer o weithwyr rheng flaen yn ein gwasanaethau iechyd a gofal ar anterth y pandemig.

“Mae cynaliadwyedd wrth wraidd y busnes hefyd a’i arloesedd yw’r union fath o arfer busnes rydym am ei weld wrth i ni ailadeiladu economi wyrddach yng Nghymru.”

‘Cyfnod heriol’

Dywedodd Lorenzo Angelucci, Prif Swyddog Gweithredol Transcend Packaging: “Fel y rhan fwyaf o fusnesau Prydain, cafodd pandemig y coronafeirws effaith enfawr ar ein busnes pecynnu cynaliadwy; gyda’r cyfyngiadau symud yn gorfodi bwytai a chaffis i gau, roedd yr archebion gan y cleientiaid mawr yn diflannu.

“Roedd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn ganolog i gynorthwyo Transcend drwy’r cyfnod heriol hwn gyda llai o archebion ac incwm.

“Roedd hefyd yn diogelu swyddi dros 70 o weithwyr yn ein cyfleuster cynhyrchu yn Ystrad Mynach, Caerffili.”