Nid yw rhannau helaeth o’r Deyrnas Unedig yn rheoli clefyd yr iau a chanser yr iau mewn ffordd effeithiol, mae elusen wedi rhybuddio.

Canfu astudiaeth dan arweiniad Ymddiriedolaeth Iau Prydain nad oes gan dri chwarter yr ardaloedd yn y Deyrnas Unedig fawr ddim o strwythurau ffurfiol ar waith ar gyfer canfod a rheoli clefyd yr iau a chanser yr iau.

Rhybuddiodd yr elusen fod tri o bob pedwar claf sydd a chlefyd yr iau yn y Deyrnas Unedig yn cael diagnosis pan mae’n rhy hwyr i gael triniaeth effeithiol.

Roedd yr ymchwil, a gyhoeddwyd yn y British Journal of General Practice, yn edrych ar ddata gan gyrff iechyd ledled y Deyrnas Unedig.

Dim ond un o bob pump (20%) oedd â pherson penodol yn gyfrifol am glefyd yr iau.

Ond yng Nghymru, y ffigwr oedd 86%.

Dywedodd ymchwilwyr fod y ffigurau’n dangos y “flaenoriaeth a roddir i glefyd yr iau” yng Nghymru.

Canfu’r tîm hefyd amrywiaeth ar draws gwahanol sefydliadau iechyd o ran dilyn triniaeth ’safon aur’.

Canmolodd yr awduron awdurdodau iechyd Cymru a dywedodd y dylai’r canlyniadau fod yn “gatalydd ar gyfer newid” mewn rhanbarthau eraill.

‘Gofal gorau posibl’

Dywedodd Pamela Healy, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Iau Prydain: “Mae marwolaethau oherwydd clefyd yr iau wedi mwy na dyblu yn yr 20 mlynedd diwethaf ac mae disgwyl i’r cyflwr oddiweddu clefyd y galon fel achos mwyaf marwolaethau cynnar yn y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd nesaf.

“Gordewdra, alcohol a hepatitis feirysol yw’r tri phrif ffactor risg ar gyfer clefyd yr iau mae modd ei atal.

“Er bod canlyniadau ein hymchwil yn peri pryder mawr, rydym yn gwybod bod meysydd o arfer da a bod y newidiadau rydym yn galw amdanynt yn gwbl bosibl ac y byddant yn achub llawer o fywydau.

“Nawr mae angen i ni gymryd yr hyn sy’n gweithio’n dda yn yr ardaloedd hynny sydd â gofal da i gleifion yr iau a’u rhoi ar waith mewn ardaloedd eraill fel bod pob person sydd â chlefyd yr iau yn cael y gofal gorau posibl, waeth ble yn y Deyrnas Unedig maen nhw’n byw.”